English icon English

Cyfraith nodedig yng Nghymru i ddileu elw o ofal plant sy'n derbyn gofal

Landmark law in Wales to end profit from children in care

Heddiw, cafodd y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) y Cydsyniad Brenhinol.

Bydd y gyfraith newydd, a basiwyd gan y Senedd ym mis Chwefror, yn gwella gwasanaethau i blant, teuluoedd a phobl anabl.

Cymru yw'r wlad gyntaf yn y DU i ddeddfu er mwyn dileu elw preifat mewn gwasanaethau gofal preswyl a gwasanaethau maethu plant. 

Yn y dyfodol, dim ond y sector cyhoeddus, sefydliadau elusennol neu sefydliadau nid-er-elw a fydd yn darparu gofal i blant sy'n derbyn gofal.

Bydd hyn yn sicrhau bod arian sy'n mynd i'r system yn cael ei ailfuddsoddi er budd lles plant, yn hytrach na'i gymryd gan gyfranddalwyr fel elw.

Yn ogystal, bydd y gyfraith yn galluogi cyflwyno taliadau uniongyrchol ar gyfer gofal iechyd parhaus y GIG, fel bod pobl anabl a'r rhai sydd â chyflyrau iechyd hirdymor yn cael mwy o reolaeth dros eu trefniadau gofal.

Nodwyd yr achlysur heddiw gyda'r Prif Weinidog Eluned Morgan a'r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol Dawn Bowden yn selio'r Bil yn swyddogol.

Dywedodd y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, Dawn Bowden:

"Mae'r gyfraith hollbwysig hon yn cynrychioli newid sylfaenol yn y ffordd rydyn ni'n gofalu am ein pobl fwyaf agored i niwed yng Nghymru, y mae eu lleisiau wedi bod yn ganolog i'n penderfyniadau.

"Drwy ddileu elw o ofal plant sy'n derbyn gofal, rydyn ni'n sicrhau bod cyllid yn cael ei ddefnyddio i wella canlyniadau i bobl ifanc ac rwy'n falch mai ni yw'r wlad gyntaf yn y DU i gymryd y cam mentrus hwn.

"Mae'r diwygiad hwn, ochr yn ochr â grymuso pobl anabl drwy daliadau uniongyrchol yn dangos ein hymrwymiad cadarn i greu gwasanaethau gofal sydd wedi'u hadeiladu ar dosturi yn hytrach na buddiannau masnachol.

"Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi ymwneud â'r gwaith o greu'r Ddeddf hon, a byddwn yn parhau i weithio gyda'n gilydd i drawsnewid ein gwasanaethau plant a gwella iechyd a gofal cymdeithasol."

Dywedodd Joanne, sy'n berson ifanc â phrofiad o fod mewn gofal ac aelod o Voices from Care Cymru:

"Mae'r ffaith bod hyn bellach yn gyfraith yn gwneud imi deimlo'n falch gan fy mod yn gwybod na fydd elw preifat yn cael ei wneud yn y dyfodol o bobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal. Bydd yr arian yn cael ei ailfuddsoddi nawr er mwyn i ni ddod yn ein blaenau a thyfu i fod yr unigolion rydyn ni eisiau bod.  

"Wnaeth hyn ddim digwydd dros nos, ac fe gymerodd lawer o waith caled a'n hamser ni fel pobl ifanc, ond doedden ni ddim am roi'r gorau iddi. Rydyn ni am ddal ati i weithio'n galed i wneud y system gofal yn lle gwell i blant a phobl ifanc."

Dywedodd Rhian Davies, Prif Swyddog Gweithredol Anabledd Cymru:

"Mae Anabledd Cymru wedi ymgyrchu ers amser i bobl anabl sy'n cael gofal iechyd parhaus gael yr un hawliau i daliadau uniongyrchol â'u cyfoedion sy'n cael gofal cymdeithasol.

"Bydd y gyfraith newydd hon yn galluogi'r rhai sy'n cael gofal iechyd parhaus i wneud eu penderfyniadau eu hunain o ran sut, a gan bwy, y mae eu cymorth personol yn cael ei ddarparu. Mae'r achlysur hwn yn nodi carreg filltir arwyddocaol i wneud yn siŵr bod pob person anabl yng Nghymru yn gallu arfer yr hawl i fyw'n annibynnol."

Nodiadau i olygyddion

Ending profit from the care of looked after children is part of the Welsh Government’s wider work to radically transform children’s care services:

  • We want fewer children taken into care.
  • We want services to provide the right support for families, at the right time, to help them to stay together, wherever possible.
  • When children are taken into care, we want them to be looked-after as close to home as possible, with the right support for their needs.
  • And when young people are ready to leave care, they will be supported to plan for the future and lead independent lives.

Direct payments within NHS continuing healthcare

  • Currently, people in receipt of continuing healthcare in Wales have their care needs arranged by the NHS. Enabling them to receive direct payments will allow them more choice over the way their care needs are met.