English icon English

£90m mewn benthyciadau llog isel i hybu tai fforddiadwy a gwella cartrefi presennol

£90m in low-interest loans to boost affordable housing and improve existing homes

Mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod £90m ar gael mewn benthyciadau llog isel i Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig i ddarparu mwy o gartrefi i bobl ledled Cymru.

Bydd y benthyciadau'n helpu'r sector tai gyda chostau cynyddol dyled ac yn cefnogi'r gwaith o ddarparu 277 o gartrefi fforddiadwy, gyda 119 i'w darparu yn nhymor y Senedd hon, a gwaith gwella i 4,397 o gartrefi presennol.

Bydd y gwaith gwella yn helpu i godi safon cartrefi i Safon Ansawdd Tai Cymru, gan sicrhau eu bod yn fforddiadwy i'w gwresogi ac yn addas ar gyfer y dyfodol.

Mae'r benthyciadau cost isel yn amrywio rhwng £5m a £10m ac yn amlygu ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i sicrhau gwerth am arian, a gwneud y gorau o bob llwybr i gynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy.

Cyflwynodd Llywodraeth Cymru y cynllun benthyciadau yn llwyddiannus yn 2023-24, gan gyhoeddi mwy na £75m mewn benthyciadau i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i gyflwyno dros 450 o gartrefi ychwanegol yn y sector cymdeithasol.

Yn ddiweddar, ymwelodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol, Jayne Bryant, â datblygiad Michael Grove yn Llanharan sydd o dan reolaeth Cymoedd i'r Arfordir.

Cyflawnwyd y cartrefi o dan y cynllun benthyciadau blaenorol ac maent yn helpu i gyflawni ein huchelgais ar gyfer datblygiadau deiliadaeth gymysg, gan ddod â chartrefi ar gyfer rhent cymdeithasol, perchentyaeth cost isel a gwerthiannau marchnad agored at ei gilydd i greu cymunedau cryfach a mwy gwydn.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet: "Rydym wedi bod yn gwrando ar y sector ac yn gweithio'n agos â nhw i'w helpu i oresgyn heriau costau cynyddol adeiladu cartrefi a benthyca.

"Mae'r cartrefi yma yn Michaels Grove yn enghraifft o bŵer gwirioneddol y math hwn o gyllid i ddarparu cartrefi hardd sy'n fforddiadwy i'w rhedeg ac sy'n cyfoethogi ein cymunedau.

"Mae angen mwy o gartrefi fforddiadwy ac ynni-effeithlon arnom nawr ac ar gyfer y dyfodol, ac mae mor bwysig ein bod yn parhau i archwilio ffyrdd arloesol o gynyddu'r cyflenwad o dai i unigolion a theuluoedd ledled Cymru."

Dywedodd Joanne Oak, Prif Weithredwr Grŵp Cymoedd i'r Arfordir: "Mae'r cyllid hwn wedi ein galluogi i sicrhau naw cartref ychwanegol i deuluoedd fel rhan o gaffaeliad ehangach o 20 o gartrefi ar y safle datblygu cymysg hwn.

"Rydym yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am ei chefnogaeth i'n galluogi i ddarparu'r atebion a'r cymorth tai fforddiadwy gorau posibl i bobl leol, gan ein helpu i greu cartrefi a chymunedau diogel a hapus lle mae ein cwsmeriaid yn teimlo eu bod yn perthyn."

DIWEDD