English icon English

£5.9m i hybu trafnidiaeth leol yng Nghanolbarth Cymru

£5.9m boost to improve local transport in mid Wales

Mae £5.9 miliwn wedi’i gyhoeddi i awdurdodau lleol wella trafnidiaeth leol ledled Ganolbarth Cymru. 

Bydd y buddsoddiad mawr hwn gan Lywodraeth Cymru yn helpu pobl i fynd o gwmpas yn haws ac yn cefnogi economïau lleol drwy well cysylltiadau trafnidiaeth. 

Bydd y grantiau yn ariannu prosiectau sy'n: 

  • gwella cyflwr ffyrdd lleol a mynd i'r afael ag aflonyddwch a achosir gan dywydd garw; 
  • treialu gwasanaethau bysiau newydd ac uwchraddio amseroedd teithio bysiau a chyfleusterau aros; 
  • creu strydoedd cynhwysol sy'n ei gwneud hi'n haws i bobl gerdded, olwynio a beicio; 
  • gosod mwy o bwyntiau gwefru cerbydau trydan a fydd ar gael i'r cyhoedd; 
  • creu llwybrau mwy diogel i blant deithio i ysgolion; a 
  • gwella diogelwch ar y ffyrdd.

 Mae'r prosiectau a fydd yn elwa yn cynnwys gwelliannau diogelwch o amgylch ysgolion Llanidloes ym Mhowys, gan ei gwneud hi'n haws i blant gerdded, olwynio neu feicio i'r ysgol; gwelliannau i'r seilwaith bysiau yng Ngheredigion a chynllun i drawsnewid y stryd fawr yn Aberhonddu a fydd o fudd o ran cael mynediad at drafnidiaeth a gwella'r ymdeimlad o le ar y stryd fawr, gyda manteision cymdeithasol ac economaidd ehangach.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth, Ken Skates: "Mae cysylltu cymunedau a darparu gwell trafnidiaeth wrth wraidd y buddsoddiad hwn o £5.9 miliwn. Rydym am ei gwneud hi'n haws i bobl deithio i'r gwaith, i’r ysgol, i gael gofal iechyd ac i weld ffrindiau a theulu, gan hefyd adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth mwy cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. 

 "Bydd y gwelliannau hyn yn gwneud gwahaniaethau go iawn i deithiau bob dydd - boed hynny'n lwybrau mwy diogel, gwell llwybrau ar gyfer cerdded, olwynio a beicio, neu wasanaethau bysiau mwy dibynadwy. Rydym yn gweithio gyda chynghorau i sicrhau bod yr arian hwn yn darparu'r manteision mwyaf i gymunedau ledled Cymru." 

Mae rhestr lawn o’r prosiectau sydd wedi’u hariannu ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru:

https://www.gov.wales/local-authority-transport-grants-awarded-2025-2026