£27m i hybu trafnidiaeth leol yn ne-orllewin Cymru
£27m boost to improve local transport in South West Wales
Mae £27 miliwn wedi’i gyhoeddi i awdurdodau lleol wella trafnidiaeth leol ledled de-orllewin Cymru.
Bydd y buddsoddiad mawr hwn gan Lywodraeth Cymru yn helpu pobl i fynd o gwmpas yn haws ac yn cefnogi economïau lleol drwy well cysylltiadau trafnidiaeth.
Bydd y grantiau yn ariannu prosiectau sy'n:
- gwella cyflwr ffyrdd lleol a mynd i'r afael ag aflonyddwch a achosir gan dywydd garw;
- treialu gwasanaethau bysiau newydd ac uwchraddio amseroedd teithio bysiau a chyfleusterau aros;
- creu strydoedd cynhwysol sy'n ei gwneud hi'n haws i bobl gerdded, olwynio a beicio;
- gosod mwy o bwyntiau gwefru cerbydau trydan a fydd ar gael i'r cyhoedd;
- creu llwybrau mwy diogel i blant deithio i ysgolion; a
- gwella diogelwch ar y ffyrdd.
Mae'r prosiectau a fydd yn elwa yn cynnwys £1.6m ar gyfer gwaith draenio a gosod wyneb newydd ar yr A483 Ffordd Fabian yng Nghastell-nedd Port Talbot; cynllun o dan arweiniad y gymuned ar gyfer gwelliannau i Ysgol Pum Heol yn Sir Gaerfyrddin a £6m ar gyfer Cyfnewidfa Aberdaugleddau, a fydd yn caniatáu i waith adeiladu ddechrau i wella gorsaf drenau bresennol Aberdaugleddau i greu cyfnewidfa newydd ar gyfer bysiau a thacsis yn ogystal â gwell mannau cyhoeddus a chysylltiadau teithio llesol.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth, Ken Skates: "Mae cysylltu cymunedau a darparu gwell trafnidiaeth wrth wraidd y buddsoddiad hwn o £27 miliwn. Rydym am ei gwneud hi'n haws i bobl deithio i'r gwaith, i’r ysgol, i gael gofal iechyd ac i weld ffrindiau a theulu, gan hefyd adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth mwy cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
"Bydd y gwelliannau hyn yn gwneud gwahaniaethau go iawn i deithiau bob dydd - boed hynny'n lwybrau mwy diogel, gwell llwybrau ar gyfer cerdded, olwynio a beicio, neu wasanaethau bysiau mwy dibynadwy. Rydym yn gweithio gyda chynghorau i sicrhau bod yr arian hwn yn darparu'r manteision mwyaf i gymunedau ledled Cymru."
Mae rhestr lawn o'r meini prawf cymhwysedd ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru https://www.llyw.cymru/grantiau-trafnidiaeth-awdurdodau-lleol-ddyfarnwyd-2025-i-2026