£110m i wella trafnidiaeth leol
£110m boost for local authorities across Wales to improve local transport
Mae £110 miliwn wedi’i gyhoeddi i awdurdodau lleol wella trafnidiaeth leol ledled Cymru.
Bydd y buddsoddiad mawr hwn gan Lywodraeth Cymru yn helpu pobl i fynd o gwmpas yn haws ac yn helpu i wneud gwell trafnidiaeth yn hygyrch i bawb.
Bydd y Cynllun yn ariannu prosiectau sy'n:
- gwella cyflwr ffyrdd lleol a mynd i'r afael ag aflonyddwch a achosir gan dywydd garw;
- treialu gwasanaethau bysiau newydd ac uwchraddio amseroedd teithio bysiau a chyfleusterau aros;
- creu strydoedd cynhwysol sy'n ei gwneud hi'n haws i bobl gerdded, olwynio a beicio;
- gosod mwy o bwyntiau gwefru cerbydau trydan sydd ar gael i'r cyhoedd;
- creu llwybrau mwy diogel i blant deithio i ysgolion; a
- gwella diogelwch ar y ffyrdd
Mae'r prosiectau a fydd yn elwa yn cynnwys parhau â chynlluniau peilot bysiau hanfodol yn Sir Ddinbych a Gwynedd, gan gynnwys gwasanaeth y T8 a Sherpa'r Wyddfa, gan ddarparu gwell mynediad i gymunedau gwledig at gyflogaeth, gwasanaethau a chyfleusterau; £1.6m ar gyfer gwaith draenio a gosod wyneb newydd ar yr A483 Ffordd Fabian yng Nghastell-nedd Port Talbot i ddatrys problemau llifogydd yn aml ar y ffordd fynediad allweddol hon; gwelliannau diogelwch ger ysgolion Llanidloes ym Mhowys, gan ei gwneud hi'n haws i blant gerdded, olwynio neu feicio i'r ysgol; ehangu'r rhwydwaith cerdded a beicio yn nwyrain Caerffili i ddarparu mynediad mwy diogel i ganol y dref a'r orsaf reilffordd.
Mae £6m hefyd ar gael ar gyfer Cyfnewidfa Aberdaugleddau, a fydd yn caniatáu dechrau'r gwaith adeiladu i wella gorsaf drenau bresennol Aberdaugleddau i greu cyfnewidfa newydd ar gyfer bysiau a thacsis yn ogystal â gwell mannau cyhoeddus a chysylltiadau teithio llesol.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: "Mae cysylltu cymunedau a darparu trafnidiaeth gwell wrth wraidd y buddsoddiad hwn o £110 miliwn. Rydym am ei gwneud hi'n haws i bobl deithio i'r gwaith, i'r ysgol, gofal iechyd ac i weld ffrindiau a theulu, tra hefyd yn adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth mwy cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
"Bydd y gwelliannau hyn yn gwneud gwahaniaethau gwirioneddol i deithiau bob dydd - boed hynny'n lwybrau mwy diogel, llwybrau gwell ar gyfer cerdded, olwynio a beicio, neu wasanaethau bws mwy dibynadwy. Rydym yn gweithio gyda chynghorau i sicrhau bod yr arian hwn yn darparu'r manteision mwyaf i gymunedau ledled Cymru."
Mae rhestr lawn o'r meini prawf cymhwysedd ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru https://www.llyw.cymru/grantiau-trafnidiaeth-awdurdodau-lleol-ddyfarnwyd-2025-i-2026