English icon English

5 peth mae angen i chi eu gwybod cyn anfon eich plant i’r ysgol neu ofal plant

5 things you need to know before sending your children to school or childcare

1. Y cyngor gwyddonol diweddaraf

Mae’r cyngor gwyddonol diweddaraf ar sut i gyfyngu ymhellach ar ledaeniad COVID-19 yn glir. 

Rhaid i bawb, cyn belled ag sy’n bosibl, leihau cysylltiadau cymdeithasol a sicrhau bod unrhyw un sy’n arbennig o agored i’r firws yn gallu cadw pellter cymdeithasol llym.

 

  1. Sut mae cadw pellter cymdeithasol yn effeithio ar ysgolion a lleoliadau gofal plant?

Rydym wedi cynghori y dylai ysgolion a lleoliadau gofal fod ar agor i nifer gyfyngedig o blant yn unig.

Rhaid i ni sicrhau mai’r nifer lleiaf posibl o blant sydd mewn lleoliadau addysgol, gofal plant a chwarae.

Hefyd, mae angen i ni sicrhau nad yw plant yn cael eu gadael gydag unrhyw un a ddylai fod yn dilyn y canllawiau llym ynghylch cadw pellter cymdeithasol, er enghraifft unrhyw un dros 70 oed neu unrhyw un sydd â’r cyflyrau iechyd gwaelodol penodedig.

Dylai cadw plant yn ddiogel yn eu cartrefi leihau’r cyfle sydd gan y firws o ledaenu. Dylai hyn amddiffyn y rheini sy’n agored i salwch mwy difrifol o ganlyniad i’r firws.

Os yw’ch plentyn yn derbyn prydau ysgol am ddim, byddant yn parhau. Ond mae’r ffordd y bydd eich plentyn yn cael y bwyd yma yn dibynnu ar eich ysgol. Cofiwch holi’r ysgol.

  1. Beth yw’r cyngor diweddaraf ar weithwyr critigol?

Mae rhestr o’r categorïau o weithwyr critigol wedi’i chyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru.

Bydd cyfyngiadau llym ar leoedd mewn ysgolion a gofal plant a dim ond plant sy’n arbennig o agored i niwed a phlant gweithwyr critigol y mae eu gwaith yn gritigol er mwyn ymateb i COVID-19 ddylai fod yn mynychu yn ystod y cyfnod hwn.

Os ydych wedi’ch pennu’n weithiwr critigol ond mae modd i chi wneud rhannau critigol eich swydd wrth weithio o’ch cartref, yna dylech wneud hynny.

Hyd yn oed i weithwyr critigol, bydd darpariaeth ond ar gael mewn ysgolion neu leoliadau eraill lle na bo dewis diogel arall i’ch teulu.

  1. Rwy’n weithiwr critigol ond dydy fy mhartner ddim. Beth ddylen ni ei wneud?

Os yw un rhiant yn weithiwr critigol ond y llall ddim, yna dylai’r rhiant sy ddim yn weithiwr critigol ddarparu trefniadau diogel eraill yn y cartref lle bo’n bosibl.

  1. Dwi’di gweld cyngor gwahanol gan wahanol gynghorau. Sut mae’r awdurdodau lleol yn gweithio?

Mae’r awdurdodau lleol yn gwneud popeth maen nhw’n gallu er mwyn delio â’r pandemig coronafeirws. Maen nhw wedi gwneud cynlluniau a’u cyfathrebu fel rhan o ymateb cychwynnol i fynd i’r afael â lledaeniad coronafeirws. Bydd y cynlluniau hynny bellach yn addasu ac yn newid wrth iddynt ymateb i’r canllawiau diweddaraf sydd ar gael i Lywodraeth Cymru. Er mwyn cael y cyngor diweddaraf, edrychwch ar wefan eich awdurdod lleol a llyw.cymru/coronafeirws

Nodiadau i olygyddion