English icon English
UPFSM (002)-2

Awydd i lwyddo: 50 miliwn o brydau am ddim wedi'u mwynhau gan ddysgwyr cynradd Cymru

Appetite for Success: 50 million free meals enjoyed by Welsh primary learners

Wrth i'r flwyddyn gyntaf o gyflwyno prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd gael ei chwblhau, mae'n nodi carreg filltir arwyddocaol arall - dros 50 miliwn o brydau bwyd wedi'u gweini mewn ysgolion cynradd ledled Cymru ers i'r rhaglen ddechrau yn 2022.

Mae cyflwyno'r rhaglen yn llawn yn golygu y gall pob plentyn ym mhob ysgol gynradd nawr gael pryd ysgol am ddim bob dydd ym mhob awdurdod lleol ledled Cymru.

Mae prydau ysgol am ddim hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau iechyd a hyrwyddo bwyta'n iach, ac mae ganddynt y potensial i wella sgiliau cymdeithasol yn ystod amser bwyd, gan gynnwys helpu i wella ymddygiad a chyrhaeddiad dysgwyr. Mae’r awdurdodau lleol hefyd wedi'u cefnogi a'u hannog i ddod o hyd i fwyd yn lleol, lle bo hynny'n bosibl.

Mae gwaith ar y gweill i adolygu Rheoliadau sy'n nodi'r mathau o fwyd a diod y gellir eu darparu yn ystod y diwrnod ysgol, gan gynnwys diffinio cynnwys maethol prydau ysgol.

Dywedodd y Prif Weinidog, Eluned Morgan:

"Mae rhoi prydau ysgol am ddim i’n holl ddisgyblion cynradd yn darparu cymorth hanfodol.

"Flwyddyn ar ôl cyflwyno’r cynllun i bawb, Cymru yw’r unig genedl yn y DU o hyd i ddarparu pryd iach am ddim i bob dysgwr cynradd. Mae’n sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn teimlo'n llwglyd yn ystod y diwrnod ysgol, ac mae hynny'n eu helpu i ganolbwyntio, o fudd i'w lles ac yn eu galluogi i gyflawni eu potensial llawn."

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle: 

“Mae mwy na 50 miliwn o brydau wedi'u gweini ers cyflwyno prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd, sy’n garreg filltir ryfeddol.

Mae hefyd yn gam arwyddocaol o ran cefnogi teuluoedd Cymru a mynd i'r afael â thlodi plant ar draws ein cymunedau."

"Rydyn ni nawr yn adeiladu ar y gwaith da sydd eisoes yn digwydd i sicrhau bod gan bob plentyn yng Nghymru fynediad at fwyd iach. Rydyn ni’n ymgynghori ar gynigion newydd a fydd yn helpu mwy o blant i gael eu pump y dydd ac yn cyfyngu ar bwdinau siwgr a bwydydd wedi'u ffrio fel rhan o fwydlenni ysgol newydd. Mae amser o hyd i bobl ddweud eu dweud ar yr ymgynghoriad a fydd yn cau ddiwedd mis Gorffennaf."

Nodiadau i olygyddion