Academi newydd i gefnogi gweithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru

New academy to support social care workers in Wales

Bydd gweithwyr gofal ledled Cymru yn gallu datblygu eu sgiliau ac ennill cymwysterau drwy Academi Gofal Cymdeithasol Genedlaethol newydd.

Heddiw, mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi £1.5 miliwn o gyllid i gefnogi cam cyntaf yr Academi.

Bydd yn adeiladu ar lwyddiant modelau academïau gofal lleol sydd eisoes ar waith mewn sawl rhan o Gymru. Mae'r modelau hyn yn cynnig cyflogaeth â thâl ochr yn ochr â hyfforddiant, gan alluogi gweithwyr gofal i ddatblygu eu sgiliau ac ennill cymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol.

Bydd hyn yn helpu i wneud gyrfaoedd mewn gofal cymdeithasol yn fwy deniadol, ac ar yr un pryd helpu i ddatblygu'r gweithlu a chreu llwybrau cliriach ar gyfer camu ymlaen i rolau uwch neu arbenigol dros amser, i'r rhai sy'n dymuno gwneud hynny.

Mae sawl awdurdod lleol yng Nghymru eisoes wedi gweld y gwahaniaeth y gall academïau gofal ei wneud, megis ei gwneud yn haws cadw staff, morâl uwch, cyfleoedd dilyniant clir, a newid yn agwedd y cyhoedd tuag at weithio ym maes gofal.

Dywedodd y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, Dawn Bowden: "Mae gweithwyr gofal cymdeithasol yn fedrus ac yn darparu urddas a thosturi i'n pobl fwyaf agored i niwed. Ond ers amser rhy hir mae'r sector wedi ei chael yn anodd cynnig y llwybrau gyrfa y mae'r gweithwyr proffesiynol ymroddedig hyn yn eu haeddu.

"Mae academi yn gallu cynnig cyfleoedd i newid y sefyllfa honno. P'un a ydych chi newydd ddechrau neu'n rhywun sydd â blynyddoedd o brofiad, bydd llwybr ar gael ichi ddatblygu'ch sgiliau, ennill cymwysterau, a gweld datblygiad a dilyniant yn eich gyrfa."

Mae'r Gweinidog hefyd yn gwneud cyhoeddiadau pellach heddiw sy'n nodi newid sylweddol yn y ffordd y mae Cymru yn cefnogi ei gweithlu gofal cymdeithasol.

Mae hyn yn cynnwys lansio ymgynghoriad ar Gorff Negodi Gofal Cymdeithasol a fyddai'n datblygu Cytundebau Cyflog Teg i weithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Byddai sefydlu'r corff hwn i ddatblygu cytundebau o'r fath yn garreg filltir arwyddocaol, gan alluogi lefelau cyflog y gellir eu gorfodi i weithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru am y tro cyntaf.

Mae'r ymgynghoriad bellach yn fyw yn llyw.cymru/ymgyngoriadau ac rydym yn annog pawb sydd â diddordeb i ymateb.

Ychwanegodd y Gweinidog: "Mae'r gweithlu gofal cymdeithasol yn haeddu cyflog teg a chyfleoedd go iawn i gamu ymlaen yn eu gyrfaoedd, gyda’r cynnig i gael hyfforddiant arbenigol, a'r hyder nad swydd yn unig yw gofal cymdeithasol – gall fod yn yrfa gydol oes. Mae cyhoeddiadau heddiw yn sôn am wneud hyn i gyd yn realiti."