English icon English

Academi Seren yn cael clod am lwyddiant dysgwyr

The Seren Academy Credited for Learners’ Success

Aeth dros 90% o raddedigion Seren eleni ymlaen i gymryd rhan mewn addysg uwch, gyda 53% yn ennill lle mewn Prifysgol Grŵp Russell. 

Nod Academi Seren yw cefnogi'r dysgwyr mwyaf galluog i gael yr uchelgais, y gallu a'r chwilfrydedd sydd eu hangen i gyflawni eu potensial, waeth beth fo'u cefndir economaidd-gymdeithasol. Mae'r rhaglen wedi'i chynllunio i danio chwilfrydedd, grymuso dewis a hyrwyddo potensial er mwyn annog mwy o ddysgwyr i fanteisio ar addysg uwch mewn prifysgolion blaenllaw. Ar hyn o bryd mae'r academi yn cefnogi tua 23,000 o ddysgwyr o Flwyddyn 8 i Flwyddyn 13 ar draws pob ysgol, chweched dosbarth a choleg yng Nghymru. 

Roedd Kyle Greenland yn rhan o garfan gyntaf myfyrwyr Seren. Aeth ymlaen i astudio yng Ngholeg Imperial Llundain lle cwblhaodd BSc mewn Biowyddorau Meddygol, MRes mewn Bioleg Canser ac ar hyn o bryd mae'n cwblhau misoedd olaf ei Ddoethuriaeth. Dywedodd:

"Un o'r heriau mwyaf a wynebais yn yr ysgol oedd cael yr hyder i ymgeisio am le mewn prifysgolion. Rhoddodd Seren yr hyder i mi wthio y tu hwnt yr oeddwn yn gyfarwydd ac yn gyffyrddus ag e, ymchwilio i sefydliadau academaidd, a chymryd y naid i astudio cwrs STEM.

"Helpodd yr amrywiaeth o weithdai a gynigiodd Seren fi i edrych ar wahanol feysydd, o ffiseg a mathemateg i feddygaeth, fel y gallwn ddarganfod pa faes o STEM oedd yn taro deuddeg gyda mi. Roedd cwrdd â thiwtoriaid derbyn ac academyddion o wahanol brifysgolion yn cynnig cyfleoedd amhrisiadwy i rwydweithio ac fe wnaethant fy helpu i ddeall sut beth fyddai bywyd yn y brifysgol mewn gwirionedd.

"Roedd y gefnogaeth a roddodd Seren i mi yn ei gwneud hi'n bosibl i mi anelu at, a chyflawni, nodau addysg uwch yr oeddwn dan yr argraff, ar un adeg, eu bod tu hwnt i fy nghyrraedd."

Ar ôl graddio o raglen Seren, aeth Carys Bill i Brifysgol Rhydychen lle bu'n astudio Gwyddorau Daear. Mae hi bellach yn cwblhau Doethuriaeth yng Ngholeg Imperial Llundain. Dywedodd hi: 

"Agorodd Seren fy llygaid i'r byd a rhoddodd gyfleoedd i mi a wnaeth f'ysgogi a'm herio i gamu allan o fy nghylch bach cysurus.

"Trwy ysgolion haf, dosbarthiadau meistr a gweithdai, cychwynnodd Seren fy nhaith o fod yn ddisgybl chweched dosbarth dihyder i ennill gradd meistr integredig mewn Gwyddorau Daear o Brifysgol Rhydychen, sydd bellach yn gweithio tuag at Ddoethuriaeth yng Ngholeg Imperial Llundain.

"Pan o'n i yn yr ysgol, helpodd Seren fi ddarganfod beth roeddwn i eisiau ei astudio nesaf a rhoi'r hyder i mi wneud cais i Rydychen ac rydw i mor ddiolchgar am hynny - mae'r cyfleoedd rydw i wedi'u cael drwy fy ngraddau i deithio'r byd ar gyfer gwaith maes a chynadleddau, i gwrdd a gweithio gyda phobl anhygoel o lawer o wahanol wledydd ac i gymryd rhan mewn llawer o brosiectau cŵl wedi bod yn anhygoel."

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle: "Rydw i mor falch o'n graddedigion Seren a'u cyflawniadau. Mae Seren yn rhwydwaith anhygoel sydd wedi cael effaith enfawr ar gyflawniad ein pobl ifanc drwy alluogi ein dysgwyr sy'n disgleirio i ddarganfod yr holl opsiynau sydd ar gael iddynt. Mae cael gwybodaeth am y cyfleoedd hyn, a'r hyder i ymgeisio am le, yn hanfodol i'n dysgwyr a'n pobl ifanc allu dewis llwybrau sy'n eu boddhau ac yn cyd-fynd â'r hyn maen nhw eisiau ei gyflawni."