Adfer mawndir ym Mannau Brycheiniog
Peatland restoration in Bannau Brycheiniog is more than bog standard
Mae prosiect mawr ar gyfer mawndiroedd yn y Mynydd Du yn arbed degau o filoedd o dunelli o allyriadau carbon bob blwyddyn – sy'n cyfateb i dynnu 169 o geir oddi ar y ffordd – diolch i £1.2m o gefnogaeth Llywodraeth Cymru.
Mae'r fenter, sydd wedi'i darparu gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol mewn partneriaeth â phorwyr a chontractwyr lleol, wedi gwneud yn llawer gwell na'i thargedau gwreiddiol - i helpu i amsugno carbon a gwarchod cynefinoedd bywyd gwyllt unigryw.
Mae mawndir sy'n erydu yn cyfrannu'n sylweddol at allyriadau carbon, gyda mawndiroedd yn storio dros chwarter carbon tir Cymru er mai dim ond 4% o arwynebedd y tir yw.
Mae'r prosiect ym Mannau Brycheiniog wedi cael canlyniadau rhyfeddol, gan weld 38km o dorlan fawn; y ffosdyllau wedi’u herydu a'r bargodion o fawn, wedi'u sefydlogi yn erbyn targed gwreiddiol o ddim ond 10km.
Mae 10km o arwyneb mawn noeth hefyd wedi'i blannu â mwsog a glaswellt, gan arwain at dros 89 hectar o fawn agored yn cael ei ddiogelu yn erbyn targed cychwynnol o 3 hectar – gan arbed miloedd o dunelli o allyriadau carbon bob blwyddyn.
Mae'r gwaith adfer wedi gosod 530 o argaeau sy'n gollwng a 700m o fwndelau rhisgl bioddiraddadwy i reoli dŵr ffo ac ail-wlychu'r mawndir ac wedi adfer dros 6km o lwybrau i atal cerddwyr rhag ei erydu.
Ar ymweliad i weld canlyniadau'r prosiect drosto'i hun, dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog sy'n gyfrifol am Newid Hinsawdd, Huw Irranca-Davies:
"Mae mawndiroedd yn wych am amsugno carbon a hefyd ddarparu cynefinoedd bywyd gwyllt unigryw, ond yn aml mae angen ein help arnynt i'w hadfer i gyflwr da.
"Diolch o galon i'r tîm cyfan y tu ôl i'r ymdrech hon i wella ein mawndiroedd gwerthfawr. Mae'n dangos pa mor uchelgeisiol y gall prosiectau ar raddfa tirwedd gyflawni newid gwirioneddol i Gymru."
Y llynedd, curodd Llywodraeth Cymru ei tharged 5 mlynedd cychwynnol o adfer 3,000 hectar o fawndir 12 mis yn gynnar.
Ers hynny mae £5.2m ychwanegol wedi'i addo i adeiladu ar y cynnydd a wnaed gan y Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd (NPAP), sy'n cael ei darparu gan Cyfoeth Naturiol Cymru.
Mae'r cyllid ar gyfer y gwaith yn Bannau Brycheiniog yn ychwanegol at gyllid NPAP ac fe'i darparwyd gan raglen Tirweddau Cynaliadwy, Mannau Cynaliadwy Llywodraeth Cymru, sy'n darparu buddsoddiad cyfalaf i Barciau Cenedlaethol a Thirweddau Cenedlaethol i gyflawni prosiectau sy'n cefnogi natur, lliniaru newid yn yr hinsawdd, twristiaeth gynaliadwy a chymunedau gwydn.
Mae deddfwriaeth nodedig hefyd wedi'i chyflwyno a fydd yn cryfhau'r gefnogaeth i wahanol grwpiau ledled Cymru ddod at ei gilydd a gweithio i ddiogelu natur.
Bydd Bil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru) yn chwarae rhan hanfodol wrth ddiogelu amgylchedd naturiol Cymru.
Ychwanegodd y Dirprwy Brif Weinidog:
"Byddwn yn parhau i gydweithio'n agos â'n partneriaid i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur wrth gefnogi cyfleoedd am swyddi gwyrdd cyffrous ledled Cymru i gefnogi ein heconomi.
"Dim ond trwy weithio gyda'n gilydd y gallwn wneud newid sylweddol."