Adfocadau i Lywodraeth Cymru: Penodi Panel Cwnsleriaid
Advocates for the Welsh Government: Appointment of Panel of Counsel
Heddiw, mae Jeremy Miles AS, Cwnsler Cyffredinol Cymru a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd, wedi cyhoeddi bod y Panel Cwnsleriaid a benodwyd i ddarparu adfocatiaeth gyfreithiol a gwaith cynghori arbenigol i Lywodraeth Cymru yn cael ei adnewyddu.
Penodwyd y Panel yn dilyn cystadleuaeth recriwtio gyhoeddedig, ac mae'n cynnwys cyfanswm o 36 o Gwnsleriaid.
Penodwyd tri phanel fel rhan o’r Panel Cwnsleriaid:
- un panel sy’n cynnwys Cwnsleriaid y Frenhines
- ail banel sy’n cynnwys Cwnsleriaid Iau sydd â mwy na 10 mlynedd o brofiad o ddarparu adfocatiaeth (Panel Cwnsleriaid Iau A)
- trydydd panel sy’n cynnwys Cwnsleriaid Iau sydd â llai na 10 mlynedd o brofiad o ddarparu adfocatiaeth (Panel Cwnsleriaid Iau B)
Mae paneli'r Cwnsleriaid Iau wedi'u rhannu yn gategorïau pwnc eang, ac mae maint a chymeriad cyffredinol pob panel yn cael eu pennu yn ôl yr angen.
Bydd penodiadau'r Panel am gyfnod o bum mlynedd, gan ddechrau ar 1 Mawrth 2021.
Dywedodd Jeremey Miles AS, y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd:
"Rwy'n falch iawn o gyhoeddi'r penodiadau hyn. Denodd y gystadleuaeth ddiddordeb gan fwy na 100 o ymarferwyr. Mae lefel y diddordeb a fynegwyd ac ansawdd y ceisiadau a dderbyniwyd wedi fy nghalonogi i’n fawr.
"Rwy'n gwybod y bydd y Cwnsleriaid hynod brofiadol a dawnus sydd wedi cael eu penodi i'r Panel yn sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gallu elwa ar gronfa annibynnol o gryn arbenigedd cyfreithiol ar draws amrediad eang o weithgarwch y llywodraeth.
"Mae meddu ar y gallu hwn sydd eisoes wedi ei brofi i wneud gwaith adfocatiaeth a chynghori yn bwysig er mwyn sicrhau bod y cyngor cyfreithiol annibynnol gorau ar gael i Lywodraeth Cymru bob amser."