Adnewyddu canolfan deuluoedd Conwy er mwyn helpu mwy o bobl
Upgraded Conwy family centre to help more people
Bydd mwy o gymorth am ddim ar gael mewn un lle i deuluoedd ardaloedd gwledig Conwy pan fydd Canolfan Deuluoedd Llanrwst yn ailagor ar ei newydd wedd fis nesaf.
Mae'r ganolfan, sydd wedi cefnogi cannoedd o deuluoedd lleol dros y ddwy flynedd ar hugain diwethaf, wedi cael ei gweddnewid, diolch i fuddsoddiad o £480,000 gan Lywodraeth Cymru.
Bellach bydd yn bosibl darparu mwy o wasanaethau ar yr un pryd, gan arbed teuluoedd sy'n byw mewn ardaloedd gwledig rhag gorfod teithio pellteroedd ’nôl a blaen i’r ganolfan.
Mae'r ganolfan yn cynnig amrywiaeth o gymorth, gan gynnwys clybiau babanod wythnosol a ddarperir gydag ymwelwyr iechyd, grwpiau gofalwyr ifanc, a chymorth cam-drin domestig i bobl o bob oedran.
Dywedodd y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, Dawn Bowden:
"Dw i'n falch o weld y cyfleuster gwych hwn yn ailagor ar ôl cael ei weddnewid. Mae ein buddsoddiad o £480,000 yn golygu y gall y ganolfan barhau â'i gwasanaethau hanfodol, a bod cannoedd o deuluoedd yng Nghonwy bellach yn gallu manteisio ar nifer o wasanaethau mewn un lle, gan arbed amser a theithio.
"Mae ehangu ac adnewyddu'r ganolfan hon, yn adlewyrchu ein hymrwymiad ni i integreiddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a'u darparu yn nes at adref i gymunedau ledled Cymru."
Dywedodd y Cynghorydd Penny Andow, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Integredig i Oedolion a Chymunedol:
"Bydd y gwaith adnewyddu hwn yn rhoi hwb i'r gwasanaethau sy'n cael eu cynnig i deuluoedd yn yr ardal, a bydd yn creu mwy o gyfleoedd i weithio mewn partneriaeth. Rydyn ni'n ddiolchgar am y cyllid gan Lywodraeth Cymru sydd wedi gwneud hyn yn bosibl, a dw i'n falch iawn y gallwn helpu i sicrhau dyfodol i’r Ganolfan a pharhau i ddarparu'r gwasanaethau poblogaidd hyn drwy fuddsoddi yn yr adeilad."
Dywedodd y Cynghorydd Cathy Augustine, Aelod Cabinet dros Blant, Teuluoedd a Diogelu:
"Dros y ddwy flynedd ar hugain diwethaf, mae Canolfan Deuluoedd Llanrwst wedi datblygu'n ganolfan i ddiwallu anghenion newidiol y gymuned. Felly rydyn ni'n edrych ymlaen at groesawu ein holl deuluoedd yn ôl i'r ganolfan ar ei newydd wedd, lle gallwn barhau i ddarparu amrywiaeth o gymorth hanfodol i'r gymuned."
Nodiadau i olygyddion
- The Llanrwst Family Centre received £480,000 from the Welsh Government’s Integration and Rebalancing Capital Fund (IRCF) for refurbishment.
- The (IRCF) was launched in 2022 to support the Programme for Government commitment to invest in a new generation of health and social care hubs and to support the rebalancing of adult residential care and eliminating profit from the care of looked after children.
- To date 33 projects have been supported through IRCF across Wales totaling £99.3m.
- IRCF focuses on maintaining and developing integrated health and social care hubs across Wales to serve communities with preventative and accessible local support.