Adolygiad Teilwredig o Lyfrgell Genedlaethol Cymru
A Tailored Review of the National Library of Wales
Datganiad i’r Wasg ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Phanel yr Adolygiad Teilwredig
Mae adolygiad teilwredig annibynnol wedi’i gynnal o Lyfrgell Genedlaethol Cymru, a hwyluswyd gan Lywodraeth Cymru. Canolbwyntiwyd ar effeithlonrwydd, effeithiolrwydd a llywodraethu. Mae adroddiad ac argymhellion panel yr adolygiad wedi’u cyhoeddi yr wythnos hon.
Mae Llywodraeth Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi croesawu’r adolygiad.
Dywedodd Meri Huws, Llywydd Dros Dro Llyfrgell Genedlaethol Cymru, mewn ymateb i argymhellion Panel yr Adolygiad:
“Mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn croesawu argymhellion yr adolygiad. Mae’n cynnwys dadansoddiad manwl a thrylwyr o’r sefyllfa bresennol a’r materion y mae’r Llyfrgell yn eu hwynebu. Rydym yn edrych ymlaen at gydweithio’n agos â Llywodraeth Cymru wrth weithredu’r argymhellion ac wrth i ni ddiogelu dyfodol y Llyfrgell. Rwy’n falch fod yr adolygiad yn cydnabod pwysigrwydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru fel trysorfa ar gyfer treftadaeth gofnodedig y genedl a sut y gallai gynyddu ymhellach effaith ei gwasanaethau er budd unigolion a chymunedau.”
Dywedodd Aled Eirug, Cadeirydd Panel yr Adolygiad:
“Hoffai Panel yr Adolygiad ddiolch i holl staff ac ymddiriedolwyr y Llyfrgell Genedlaethol, a swyddogion Llywodraeth Cymru am eu hymateb cadarnhaol ac adeiladol wrth i’r adroddiad hwn gael ei ysgrifennu.”
“Gobeithiwn y bydd yr adroddiad hwn yn sbarduno perthynas effeithiol a chynhyrchiol rhwng Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru. Rydym wedi nodi’r heriau mwyaf allweddol y mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn eu hwynebu, gan gynnwys sicrhau bod modd i gynulleidfa ehangach fanteisio ar ei gwasanaethau. Rydym yn edrych ymlaen at weld Llywodraeth Cymru a’r Llyfrgell Genedlaethol yn gweithredu ein hargymhellion.”
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Yr Arglwydd Elis-Thomas:
“Rwy’n croesawu sylwadau annibynnol Panel yr Adolygiad ac rwy’n edrych ymlaen at gydweithio cadarnhaol wrth i ni fynd i’r afael â’r argymhellion. Mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn sefydliad diwylliannol pwysig y mae’n hollbwysig ein bod yn sicrhau ei pharhad a hefyd sicrhau ei bod yn parhau’n berthnasol i Gymru gyfan. Mae’r casgliadau hyn yn cynnig meysydd y mae angen i’r Llyfrgell a Llywodraeth Cymru roi sylw iddynt – a bydd y Llywodraeth a’r Llyfrgell yn cydweithio er mwyn sicrhau bod y Llyfrgell yn parhau’n gadarn ac yn addas i’w diben mewn cyfnod eithriadol o heriol i’n holl gyrff a noddir.”
Gallwch weld yr adroddiad llawn yma: https://llyw.cymru/llyfrgell-genedlaethol-cymru-adolygiad-wedii-deilwra