Adroddiad annibynnol yn rhoi dadansoddiad manwl o'r system cyllido ysgolion yng Nghymru ac yn gwneud argymhellion ar gyfer gwelliannau
Independent report provides in-depth analysis of the school funding system in Wales and makes recommendations for improvements
Heddiw (dydd Iau, 15 Hydref), mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi adroddiad annibynnol ar wariant ysgolion yng Nghymru.
Comisiynwyd yr adolygiad ym mis Hydref 2019 gan y Gweinidog Addysg Kirsty Williams a gadarnhaodd y byddai'r economegydd addysg blaenllaw Luke Sibieta yn mynd ati i gynnal y dadansoddiad.
Comisiynodd y Gweinidog yr adolygiad i gynnig dadansoddiad ac argymhellion ynghylch sut y gellid addasu'r system cyllido ysgolion i gefnogi nodau ac uchelgeisiau polisi yn y ffordd orau er mwyn gwella'r system ysgolion yng Nghymru.
Roedd sefydlu'r adolygiad yn un o argymhellion allweddol Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc ac Addysg y Senedd. Cafodd ei gomisiynu a'i gynnal gan mwyaf cyn yr argyfwng Covid-19 ond mae'n dal i gydnabod y bydd gan y pandemig 'oblygiadau difrifol' i adnoddau a gwariant ysgolion a bydd yn arwain at 'straen enfawr ar gyllid cyhoeddus'.
Dywedodd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg:
"Pan gomisiynwyd y gwaith hwn ym mis Hydref y llynedd ni allai neb fod wedi rhagweld y straen digynsail y byddai pandemig y coronafeirws yn ei gael ar gyllidebau'r sector cyhoeddus.
"Rwy'n llwyr ymwybodol o'r pwysau gwirioneddol y mae awdurdodau lleol ac ysgolion bellach yn eu hwynebu o ganlyniad i'r pandemig - mae heriau o'r fath yn ei gwneud yn bwysicach fyth cynnal adolygiad ystyriol o'r system gyllido ysgolion i sicrhau ei fod mewn sefyllfa dda i gynorthwyo llunwyr polisi wrth i ni symud ymlaen.
"Mae Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth o fewn ei gallu i sicrhau bod gan wasanaethau cyhoeddus Cymru'r holl adnoddau sydd eu hangen arnynt i ymateb i'r argyfwng a lliniaru ei effaith.
"Nawr, yn fwy nag erioed, mae angen i ni ddeall y penderfyniadau cyllid a wneir ledled Cymru er mwyn sicrhau tegwch a rhagoriaeth i'n dysgwyr.
"Felly, mae cyhoeddi'r adroddiad hwn yn amserol iawn gan ei fod yn darparu tystiolaeth i alluogi llunwyr polisi i wneud penderfyniadau gwybodus wrth ystyried cyllid ar gyfer ysgolion ar draws Cymru, gan barhau â'n nod cyffredinol o wella safonau ysgolion a lleihau anghydraddoldebau."
Crynhoi’r adroddiad
Daw nifer o gasgliadau allweddol i'r amlwg o'r adolygiad ar sut mae cyllid wedi newid, a sut y caiff ei ddosbarthu ar draws ysgolion ac ardaloedd:
Gwariant fesul dysgwr wedi gostwng 6% mewn termau real
Mae hyn yn olrhain gostyngiadau yn y grant bloc yn bennaf ac yn gysylltiedig â chynnydd bach ym maint dosbarthiadau.
Lle a thystiolaeth ar gyfer lefelau uwch o gyllid amddifadedd
Mae'r ysgolion mwyaf difreintiedig yn gweld lefelau uwch o wariant, ond mae’r cyllid amddifadedd yn gymharol fach y tu allan i'r ysgolion difreintiedig hyn.
Erbyn hyn ceir tystiolaeth gref bod gwariant uwch yn cael mwy o effaith ar ddysgwyr difreintiedig a gall fod yn arf gwerthfawr i leihau anghydraddoldebau.
Ysgolion tebyg yn cael gwahanol lefelau o gyllid
Mae ysgolion â lefelau tebyg o amddifadedd yn aml yn gweld gwahaniaeth o tua £1,500 neu 35% mewn gwariant fesul dysgwr.
Gwahaniaethau mawr mewn gwariant ar draws ardaloedd tebyg
Hyd yn oed ar ôl cyfrif am nodweddion dysgwyr ac ysgolion, mae llawer o awdurdodau lleol yn gwario hyd at £300 fesul dysgwr fwy neu lai na'r cyfartaledd cenedlaethol.
Pwysau disgwyliedig ar gostau yn y dyfodol
Yn y tymor byr, mae costau ysgolion yn debygol o gynyddu os bydd llunwyr polisi yng Nghymru yn cyflwyno cyflogau cychwynnol o £30,000 er mwyn bod ar yr un lefel â Lloegr. Mae newid demograffig yn debygol o gynyddu’r gost o redeg ysgolion bach mewn ardaloedd gwledig, sydd eisoes yn uchel, ac mae'r galw am ofal cymdeithasol i oedolion yn debygol o gynyddu sylweddol, gan roi pwysau ar gyllidebau cyffredinol llywodraeth leol.
Wedyn, mae'r adroddiad yn gwneud nifer o argymhellion i helpu i fynd i'r afael â'r heriau hyn:
Penderfyniadau gwariant yn seiliedig ar dystiolaeth empirig
Mae consensws cryf bellach wedi dod i'r amlwg mewn tystiolaeth academaidd sy'n dangos effeithiau cadarnhaol mawr gwariant ysgolion, gydag effeithiau mwy ar ddysgwyr difreintiedig. Dylai penderfyniadau polisi a gwariant ar bob haen o lywodraeth adlewyrchu'r dystiolaeth hon. Os bydd cyllidebau'n caniatáu, mae hyn yn debygol o awgrymu lefelau uwch o gyllid amddifadedd i ysgolion.
Tegwch a thryloywder o ran cyllid ar draws ysgolion ac ardaloedd
Byddai fformiwlâu symlach a mwy cyson ar draws awdurdodau lleol ar gyfer cyllido ysgolion yn lleihau gwahaniaethau yn y cyllid fesul dysgwr mewn ysgolion tebyg ac yn sicrhau bod y rhesymau dros unrhyw wahaniaethau sy'n weddill yn gwbl dryloyw. Dylai Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol hefyd barhau i adolygu fformiwla cyllid llywodraeth leol er mwyn sicrhau ei bod yn adlewyrchu'n deg yr anghenion a'r costau ar draws ardaloedd.
Craffu effeithiol wedi'i alluogi gan ddata cyson a thryloyw
Mae craffu effeithiol ond yn bosibl pan fydd gan yr holl randdeiliaid fynediad at wybodaeth a data clir ar sut y dyrennir cyllid ysgolion. Byddai data mwy cyson a manwl ar wariant yn galluogi trafodaethau gwybodus rhwng awdurdodau lleol ac ysgolion ynghylch y ffordd orau o ddefnyddio cyllid.
Disgwyliadau clir o ran costau'r dyfodol drwy'r system gyfan
Dylai Llywodraeth Cymru gynhyrchu asesiadau aml-flwyddyn treigl o'r cynnydd tebygol yng nghostau ysgolion yn y dyfodol. Er na all amcangyfrifon o'r fath byth fod yn warant o newidiadau ariannol yn y dyfodol, byddent yn gwella atebolrwydd drwy ddarparu meincnod proffil uchel i farnu'r penderfyniadau cyllido a wneir gan bob haen o lywodraeth (Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol).