English icon English

Ffordd osgoi Caernarfon a Bontnewydd i agor

Caernarfon and Bontnewydd bypass to open

Mae ffordd osgoi Caernarfon a Bontnewydd yr A487 wedi'i chwblhau cyn pryd a bydd nawr yn agored i draffig ddydd Sadwrn 19 Chwefror yn hytrach na dydd Gwener 18 Chwefror er mwyn peidio ag annog unrhyw deithio diangen yn ystod Storm Eunice.

Dechreuodd y gwaith o adeiladu'r cynllun gwerth £139m, a gyflawnwyd gan Gyd-fenter Balfour Beatty Jones Bros, yn 2019. Gwnaeth y gwaith barhau drwy gydol pandemig COVID-19 gyda mesurau ar waith i ddiogelu'r gweithlu.

Dyma un o'r prosiectau seilwaith diweddar mwyaf yng Ngogledd Cymru, ac mae'r ffordd osgoi 9.7km yn rhedeg o gylchfan y Goat ar yr A499/A487 i gylchfan Plas Menai. Adeiladwyd 17 o strwythurau mawr fel rhan o'r cynllun a chafodd 99% o'r deunyddiau a gloddiwyd eu hailgylchu a'u hailddefnyddio ar y ffordd osgoi. Mae'r prosiect hefyd yn cynnwys gwell llwybrau teithio llesol ar gyfer cerdded a beicio yn yr ardal.

Mae'r cynllun wedi rhoi hwb i'r economi leol gyda bron i £70m yn cael ei wario gyda busnesau yng Nghymru. Gwariwyd £12m ohono ar fentrau bach a chanolig. Gwariwyd £2m hefyd gan y gweithlu adeiladu mewn siopau, busnesau a gwasanaethau lleol yn ystod y cyfnod adeiladu.

Yn ystod y cyfnod adeiladu daeth 93 y cant o'r gweithlu o ardal y Gogledd, gyda 31 y cant yn byw o fewn 10 milltir. Cafodd 36 o raddedigion a phrentisiaid eu cyflogi a’u hyfforddi tra bod 15 o bobl wedi cael profiad gwaith. Ar gyfartaledd, roedd 160 o bobl yn gweithio ar y cynllun ar unrhyw adeg yn ystod y gwaith adeiladu.

Mae mesurau wedi cael eu rhoi ar waith i leihau effaith amgylcheddol y cynllun, i wella bioamrywiaeth yn yr ardal, gan gynnwys lleoedd diogel i fywyd gwyllt. Plannwyd 170,000 o blanhigion, gan ddarparu tua 14 hectar o rywogaethau brodorol newydd, coetiroedd a phrysgwydd, yn ogystal â thros 20 cilometr o wrychoedd newydd.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd sydd â chyfrifoldeb dros Drafnidiaeth, Lee Waters: “Mae'r prosiect hwn yn fuddsoddiad sylweddol yn yr ardal gan Lywodraeth Cymru ac mae'n dyst i'r gweithlu lleol ei fod wedi'i gwblhau cyn pryd. Yn ogystal â'r ffordd, mae'r prosiect wedi creu cysylltiadau newydd ar gyfer cerdded a beicio a fydd yn gwella iechyd ac amgylchedd cymunedau lleol.”

Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog Gogledd Cymru: “Y cynllun hwn yw un o'r rhaglenni seilwaith diweddar mwyaf yng Ngogledd Cymru. Cafodd ei gyflawni cyn pryd yn ystod cyfnod heriol dros ben. Rwy’n llongyfarch pawb a fu'n ymwneud â chyflawni'r cynllun hwn yn ystod y pandemig, gan ddiogelu eu gweithlu. Mae'n dyst i'r sgiliau a'r ymroddiad sydd gennym yma yn y Gogledd.”

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething: “Mae ffordd osgoi Caernarfon a Bontnewydd wedi bod yn hwb i'r economi leol yn ystod y cyfnod adeiladu, gan ddarparu cyfleoedd i brentisiaid a graddedigion, tra bod busnesau a chyflenwyr hefyd wedi elwa. Yn y tymor hir, bydd y cysylltedd gwell i Ystad Ddiwydiannol Cibyn, ac ymhellach i ffwrdd, yn dda ar gyfer twf economaidd y rhanbarth.”

Dywedodd Jon Muff, Arweinydd y Prosiect ar gyfer Balfour Beatty Jones Bros: “Rydym yn ddiolchgar iawn i'r tîm am eu gwaith caled a'u hymroddiad drwy gydol y prosiect, gan ddod â'r sgiliau a'r arbenigedd at ei gilydd ar draws ein cyd-fenter i gysylltu cymunedau yng Nghaernarfon a Bontnewydd, gan leihau tagfeydd traffig yn sylweddol a gwella amseroedd teithio.

“Rydym yn falch o'r gwaddol yr ydym yn ei adael ar ôl, sy'n cynnwys gwariant sylweddol yn yr ardal leol yn ogystal â hyfforddi a gwella sgiliau dwsinau o bobl, gan gynnwys graddedigion a phrentisiaid.”

Dywedodd Gwion Lloyd, prentis peirianneg 22 oed o Harlech sydd wedi bod ar y safle ers iddo ddechrau yn 2019: “Mae wedi bod yn wych dysgu cymaint ar brosiect mor fawr i'r rhanbarth, ac ni allwn fod wedi gofyn am ddechrau gwell i'm gyrfa peirianneg sifil. Mae'n destun balchder mawr i mi o wybod y bydd y gymuned, gan gynnwys teulu a ffrindiau, yn gallu elwa ar y ffordd osgoi yn rheolaidd."