English icon English
Gwent - January 3-2

Ail Strategaeth Troseddau Cefn Gwlad Cymru yn adeiladu ar lwyddiant i gryfhau amddiffyniad

Second Wales Rural Crime Strategy builds on success to strengthen protection

  • Strategaeth tair blynedd uchelgeisiol yn adeiladu ar ddull llwyddiannus ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a'r heddlu i fynd i'r afael â throseddau cefn gwlad a bywyd gwyllt
  • Troseddau treftadaeth yn dod yn faes blaenoriaeth newydd wrth i Gymru amddiffyn mwy ar safleoedd hanesyddol ac asedau diwylliannol
  • Heddlu Gwent yn cyhoeddi eu bod yn ehangu tîm troseddau cefn gwlad i gryfhau galluoedd gorfodi ar draws y rhanbarth

Bydd cymunedau gwledig a bywyd gwyllt yng Nghymru yn cael eu hamddiffyn ymhellach o dan strategaeth tair blynedd newydd a lansiwyd heddiw yng Nghynhadledd Troseddau Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt Cymru

Mae Strategaeth Troseddau Cefn Gwlad newydd Cymru (2025-2028) yn parhau â'r cydweithrediad llwyddiannus rhwng heddluoedd Cymru a Llywodraeth Cymru, ac yn adeiladu ar yr hyn a gyflawnwyd gan y strategaeth ar y cyd gyntaf nodedig sydd wedi helpu i gydlynu camau gweithredu yn erbyn troseddau sy'n effeithio ar gefn gwlad Cymru. 

Daeth bron i 100 o gynrychiolwyr o sefydliadau gorfodi'r gyfraith, y llywodraeth a chadwraeth ynghyd yn adeiladau Llywodraeth Cymru ar gyfer Cynhadledd Troseddau Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt Cymru, o dan gadeiryddiaeth y Dirprwy Brif Gwnstabl Nigel Harrison o Heddlu Gogledd Cymru. 

Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog sydd â chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies: “Mae troseddau bywyd gwyllt a chefn gwlad yn faterion sydd o bwys cenedlaethol a rhyngwladol. Yn ogystal ag effeithio ar bwysigrwydd cynhenid rhywogaethau, cynefinoedd a phobl, mae'r troseddau hyn yn effeithio ar ddifrifoldeb y cysylltiadau ag ymddygiadau niweidiol eraill, gan gynnwys troseddau cyfundrefnol difrifol. 

Rydym yn hyderus mai cydweithio yw'r dull gweithredu cywir i Gymru – a hynny rhwng Llywodraeth Cymru a'r heddlu, a gyda'n partneriaid eraill yn y sector statudol a'r sector cyrff anllywodraethol. Hebddynt, ni fyddai llawer o'r gwaith hwn yn bosibl. 

Mae'r strategaeth newydd yn ymateb i batrymau troseddu sy'n esblygu, gyda Throseddau Treftadaeth yn cael eu dyrchafu i fod yn faes blaenoriaeth lawn, gan adlewyrchu'r bygythiadau cynyddol i safleoedd hanesyddol Cymru a'r rhwydwaith cynyddol o bartneriaid sy'n ymroddedig i ddiogelu asedau diwylliannol Cymru. 

Yn y gynhadledd, cyhoeddodd Heddlu Gwent gynlluniau i ehangu ei dîm troseddau gwledig, cryfhau galluoedd gorfodi a darparu gwell cefnogaeth i gymunedau ffermio a diogelu bywyd gwyllt ledled y rhanbarth.  

  Dywedodd y Prif Uwch-arolygydd Dros Dro, Jason White, Pennaeth Plismona Bro yng Ngwent: "Rydym yn cydnabod bod troseddu mewn ardaloedd gwledig yn cael effaith sylweddol ar y rhai yr effeithir arnynt, ac mae ein Tîm Troseddau Gwledig ymroddedig yn gweithio gyda phartneriaid, tirfeddianwyr a grwpiau eraill i ymateb i bryderon ein cymunedau. 

"Rydym yn credu mai gweithio mewn partneriaeth yw'r allwedd i fynd i'r afael â throseddau gwledig, a all niweidio bywoliaethau, erydu ymddiriedaeth, a gadael pobl yn teimlo'n ynysig. 

"Trwy gydol y flwyddyn ariannol hon, byddwn yn cynyddu'r adnoddau o fewn ein Tîm Troseddau Cefn Gwlad i'n helpu i fynd i'r afael â'r materion a all gael effaith barhaol ar ein cymunedau cefn gwlad." 

Mae'r strategaeth yn mabwysiadu dull cynhwysfawr sy'n cynnwys – paratoi, atal, mynd ar drywydd ac amddiffyn – i fynd i'r afael â throseddau cefn gwlad a bywyd gwyllt. Mae'r dull strwythuredig hwn yn canolbwyntio ar baratoi ar gyfer senarios troseddu posibl, atal, a rhwystro gweithgarwch troseddol, mynd ar drywydd troseddwyr yn ddi-baid, ac amddiffyn cymunedau gwledig a bywyd gwyllt rhag niwed. 

Meddai Rob Taylor, QPM, Cydlynydd Troseddau Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt  "Ein cenhadaeth yw darparu'r gwasanaeth gorau posibl i'r rhai sy'n byw ac yn gweithio yng nghefn gwlad Cymru, gan sicrhau ein bod yn cynnal ein cynnyrch ffermio sy'n enwog yn fyd-eang, ein diwylliant hanesyddol cyfoethog, a'n cynefinoedd bywyd gwyllt, nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. 

"Mae dull cydgysylltiedig a strategol yn hanfodol er mwyn sicrhau llwyddiant a chynaliadwyedd. Mae'r heddlu a'n hasiantaethau partner yn rhan annatod o'r cynnydd hwn, ac maent yn hwyluso dull cyfunol o ddatrys problemau drwy ddefnyddio gwybodaeth a phrofiad arbenigol ledled Cymru a thu hwnt." 

Mae ffigyrau diweddar yn tynnu sylw at yr heriau parhaus, gyda NFU Mutual yn adrodd bod hawliadau troseddau cefn gwlad yng Nghymru wedi cynyddu o £2.4m yn 2023 i £2.8m yn 2024, er bod cyfraddau Cymru yn is na llawer o rannau o Loegr. 

Mae'r strategaeth newydd yn amlinellu chwe maes blaenoriaeth: Troseddau Adar, Troseddau Fferm, Cynefinoedd, Troseddau Treftadaeth, Mamaliaid a Rhywogaethau a Warchodir gan Ewrop, a Gwasanaethau Cymorth Rhwydweithio Gwledig - mae'r olaf yn unigryw gan ei fod yn mynd i'r afael â gwendidau iechyd meddwl mewn cymunedau gwledig. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ariannu swydd Cydlynydd Troseddau Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt Cymru am dair blynedd arall, gan gydnabod y rôl ganolog y mae'r swydd hon yn ei chwarae wrth gydlynu ymdrechion ledled y wlad.