Ail-wneud cerbydau trydan o fan eiconig o'r 1950au i'w gwneud yng Nghymru
Electric vehicle remake of iconic 1950s van to be made in Wales
Disgwylir i gerbyd trydan gael ei ail-wneud o fan eiconig a werthwyd yn y 1950au yng Nghymru, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru.
Bydd Morris Commercial Ltd yn sefydlu canolfan gynhyrchu ym Mro Tathan ar gyfer ei ail-gread modern o'r Morris J-Type – y Morris JE.
Roedd y fan glasurol yn boblogaidd unwaith ar ffyrdd Prydain a bydd y fersiwn drydan yn cadw nifer o nodweddion y gwreiddiol. Gyda'i ddyluniad unigryw a'i gorff monocoque ffibr carbon ysgafn wedi'i ailgylchu, mae gan y Morris JE newydd ystod o 250 milltir.
Bydd y prosiect hefyd yn sefydlu canolfan weithgynhyrchu gyntaf Cymru ar gyfer cerbydau trydan.
Bydd Morris Commercial yn derbyn rhywfaint o gymorth ariannol gan Gyllid Dyfodol yr Economi Llywodraeth Cymru i sefydlu'r cyfleuster cynhyrchu. Bydd yn creu tua 150 o swyddi medrus iawn.
Disgwylir i'r Morris JE carbon niwtral allyriadau sero gystadlu â cherbydau fel Ford Transit Custom, Vauxhall Vivaro a VW ID Buzz. Disgwylir iddo gael ei lansio'n llawn ddiwedd 2026.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans:
"Gyda'n tirwedd arloesol a'n cefnogaeth ar gyfer cysyniadau carbon isel, mae Cymru'n gartref naturiol i Morris JE.
"Bydd y prosiect cyffrous hwn yn elwa o'r sector modurol a'r clwstwr cadwyn cyflenwi cadarn yr ydym yn ei ddatblygu yma yng Nghymru.
"Bydd swyddi â chyflog da hefyd yn cael eu creu ar gyfer gweithwyr medrus wrth i'r cwmni gyflwyno'r fan retro hanesyddol hon i oes y cerbyd trydan."
Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Morris Commercial, Dr Qu Li:
"Rydym yn gyffrous i gael ein canfolfan gynhyrchu y Morris JE ar raddfa fawr ym Mro Tathan yn fuan. Bydd hyn yn ein galluogi i ddechrau dosbarthu cerbydau i gwsmeriaid sydd wedi aros am amser hir. Diolch i Lywodraeth Cymru am ei chefnogaeth."