English icon English
Recycling Picture-2

Ailagor Canolfannau Ailgylchu yng Nghymru

Recycling Centres to reopen in Wales

Mae’r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn, wedi cyhoeddi y bydd Canolfannau Ailgylchu yn ailagor yng Nghymru.

Bydd Canolfannau Ailgylchu yn dechrau ailagor gan bwyll yn ystod yr wythnos nesaf, gyda’r rhan fwyaf o Awdurdodau Lleol yn dewis ailagor ar 26 Mai. Roedd canolfannau ailgylchu ar gau ledled Cymru er mwyn gallu cynnal gwasanaethau allweddol, yn enwedig casglu gwastraff a deunydd ailgylchu y cartref.

Mae’r neges i aros gartref yn parhau yng Nghymru, ac ni ddylai pobl ymweld â chanolfan ailgylchu oni bai ei fod yn hanfodol ac nad oes modd i’r gwastraff a/neu’r deunydd ailgylchu gael ei gasglu gan wasanaeth casglu wrth ymyl y ffordd y Cyngor neu ei storio gartref am y tro. Ni ddylai’r gwasanaeth hwn gael ei ddefnyddio gan unrhyw un sydd â symptomau Covid-19, unrhyw un sy’n byw ar aelwyd gyda rhywun sydd â symptomau Covid-19 nac unrhyw un sy’n gwarchod ar hyn o bryd.

Mae pob cyngor wedi cytuno ar set o feini prawf cyffredin y bydd angen eu bodloni cyn y gellir ystyried ailagor safleoedd ailgylchu mewn modd diogel. Bydd angen i Gynghorau fod wedi eu bodloni o ran y canlynol:

  • Bod nifer priodol o staff ar gael i weithredu’r cyfleusterau.
  • Bod y safleoedd yn gallu cydymffurfio â gofynion iechyd a diogelwch llym, gan gynnwys y gofynion o ran glanweithdra, cadw pellter cymdeithasol a’r goblygiadau o ran rheoli traffig.
  • Bod trafodaethau’n cael eu cynnal gyda’r Undebau Llafur i gytuno ar y trefniadau ar gyfer unrhyw achosion o ailagor a gweithredu’r canolfannau.

Diogelwch yw’r prif flaenoriaeth felly gall hyn effeithio ar yr union ddyddiad y bydd rhai canolfannau ailgylchu yn ailagor, a bydd rhai safleoedd yn agor cyn eraill. Gan fod effaith y pandemig yn wahanol mewn gwahanol rannau o Gymru, bydd agweddau gweithredol megis nifer y staff, pa mor addas yw’r safle i gael ei addasu i osod cyfyngiadau cadw pellter cymdeithasol a’r eitemau a gesglir yn wahanol mewn gwahanol ganolfannau ailgylchu a gall hyn arwain at oedi a gorfod ciwio.

Mae Llywodraeth Cymru yn annog pobl yng Nghymru i fod yn amyneddgar wrth ddefnyddio canolfannau ailgylchu, i geisio manylion gan eu Cyngor ynghylch pa ganolfannau ailgylchu sydd ar agor, sut i gael mynediad iddynt, pa ddeunyddiau sy’n cael eu casglu a pha fesurau cadw pellter cymdeithasol sydd ar waith. Dim ond y safleoedd hynny y gellir eu haddasu i sicrhau bod pawb yn ddiogel fydd yn agor, a bydd rhai canolfannau yn ei gwneud yn ofynnol i bobl gysylltu ymlaen llaw i drefnu ymweliad.

Bydd ailagor rhai Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn helpu i atal y cynnydd o ran nifer yr achosion o dipio anghyfreithlon a welwyd yn ardaloedd rhai awdurdodau lleol yn ystod y pandemig. Mae tipio anghyfreithlon yn drosedd yng Nghymru, a gall arwain at gosb benodedig o hyd at £400 neu erlyn y sawl sy’n cael euogfarn.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn:

“Mae gan Gymru hanes o lwyddiant o ran ailgylchu ac rydym wedi bod yn cydweithio ag Awdurdodau Lleol yng Nghymru i ailagor Canolfannau Ailgylchu mewn ffordd ddiogel. Mae gwasanaethau rheoli gwastraff ac ailgylchu yn wasanaethau cyhoeddus allweddol ac, ar y cyd ag Awdurdodau Lleol, rydym wedi llunio canllawiau clir ar sut y gellir ailagor y canolfannau yn ddiogel er mwyn sicrhau lles staff a’r cyhoedd.

Fodd bynnag, dylai unrhyw un sydd â symptomau Covid-19, unrhyw un sy’n byw ar aelwyd gyda rhywun sydd â symptomau Covid-19 neu unrhyw un sy’n gwarchod osgoi ymweld â’i ganolfan ailgylchu leol.

Hoffwn ddiolch i Awdurdodau Lleol a’r gweithlu ehangach sydd wedi gweithio’n galed iawn drwy gydol y pandemig i gynnal gwasanaethau allweddol a pharhau i gasglu gwastraff a deunydd ailgylchu yn wythnosol.

Mae sicrhau y gall pob canolfan ailgylchu weithredu yn ddiogel ac yn unol â rheolau cadw pellter cymdeithasol yn hollbwysig er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd a gweithwyr allweddol. Fodd bynnag, mae’n debygol y bydd defnyddwyr yn gorfod ciwio oherwydd y newidiadau o ran sut y mae’r safleoedd hyn yn gweithredu. Rwy’n gofyn unrhyw un sy’n defnyddio canolfannau ailgylchu i fod yn amyneddgar a sicrhau ei fod yn ceisio gwybodaeth ymlaen llaw o ran bod y ganolfan leol ar agor, pa eitemau sy’n cael eu derbyn a pha ofynion sydd ar waith.

Rwy’n ymwybodol bod cynnydd o ran nifer yr achosion o dipio anghyfreithlon mewn rhai ardaloedd. Rhaid dweud yn glir, ni ellir byth cyfiawnhau tipio anghyfreithlon. Dylai pob gwastraff gael ei storio’n ddiogel neu ei waredu’n gyfreithlon. Dylech waredu eitemau o’r cartref gan ddefnyddio’r gwasanaeth casglu wrth ymyl y ffordd neu’r gwasanaeth casglu gwastraff y cartref a ddarperir gan eich cyngor, cyn i chi ystyried ymweld â chanolfan ailgylchu.”

Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan (Rhondda Cynon Taf), Arweinydd CLlLC:

“Mae Cynghorau yn cydweithio â’i gilydd, yn ogystal â’r Heddlu, Llywodraeth Cymru a’r Undebau Llafur, i ystyried sut y gellir addasu safleoedd ailgylchu i gydymffurfio â’r rheolau Coronafeirws presennol.

“Bydd awdurdodau unigol yn ailagor safleoedd yn eu hardaloedd pan fyddant yn fodlon ei fod yn ddiogel gwneud hynny, a phan fydd preswylwyr yn teimlo’n hyderus o ran eu defnyddio eto. Rydym yn cynghori preswylwyr i gadw llygad ar wefan eu cyngor lleol am ragor o wybodaeth ynghylch yr amserlen ar gyfer ailagor canolfannau ailgylchu yn eu hardaloedd.”

Mae dyddiad ailagor Canolfannau Ailgylchu yn dibynnu ar nifer y staff, capasiti a threfn y safle, a gall y trefniadau hynny fod yn wahanol mewn gwahanol Awdurdodau Lleol. Mae rhagor o wybodaeth ynghylch pryd y bydd Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn ailagor, a’u hamseroedd agor, ar gael ar wefannau pob Awdurdod Lleol.

DIWEDD