English icon English

Ailagor Pont Menai yn llawn

Menai Suspension Bridge to fully reopen

Bydd Pont Menai yn ailagor yn llawn i draffig dwyffordd o 7am ddydd Gwener, 24 Hydref  ar ôl i waith dros dro i fynd i'r afael â phroblem gyda nifer o folltau ar y bont gael ei gwblhau'n llwyddiannus.

Bydd y bont yn agor gyda therfyn pwysau o 7.5 tunnell ar waith, gan fod peirianwyr wedi cynghori y gellir codi'r terfyn pwysau 3 tunnell flaenorol nawr ar ôl i'r bont gael ei hatgyfnerthu ymhellach.

Bydd y gwaith dros dro yn cael ei archwilio bob dydd Mercher am 10am a bydd y traffig yn cael ei reoli ar y bont gydag arwyddion aros/mynd

Mae'r ailagor yn cyd-fynd â ffair Borth, a bydd yn caniatáu i draffig deithio i'r ynys ac oddi yno ar y ddwy bont yn ystod y digwyddiad poblogaidd hwn

Bydd gwaith ar ddatrysiad parhaol i'r broblem hon yn digwydd yn ystod yr wythnosau nesaf er mwyn hwyluso gwaith Cam 2. Darperir diweddariadau pellach, gan gynnwys ar hynt rhaglen waith Cam 2, yn fuan.

Hoffem ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra a achoswyd i'r gymuned leol wrth i'r gwaith gael ei wneud a diolch i bawb am eu hamynedd a'u cydweithrediad yn ystod y cyfnod hwn.