Allech chi gael gostyngiad yn eich bil Treth Gyngor?
Are you missing out on a Council Tax reduction?
Os ydych chi’n cael trafferth talu eich bil Treth Gyngor, gallai cymorth fod ar gael ichi drwy gynllun blaengar Llywodraeth Cymru, Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor.
Os ydych chi’n cael trafferth talu eich bil Treth Gyngor, gallai cymorth fod ar gael ichi drwy gynllun blaengar Llywodraeth Cymru, Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor.
Mae un o bob pump o aelwydydd Cymru yn manteisio ar y cynllun ar hyn o bryd, a bydd yn parhau i gefnogi aelwydydd agored i niwed yn 2020-21. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, cafodd bron i 280,000 o aelwydydd sydd ag incwm isel gymorth drwy’r cynllun – a 220,000 ohonynt ddim yn talu unrhyw dreth gyngor o gwbl. Mae llawer yn rhagor yn cael disgowntiau neu eithriadau eraill.
Mae’n bosibl fod gennych hawl i dalu llai o dreth gyngor:
- os ydych yn credu eich bod yn byw ar incwm isel
- os ydych yn byw ar eich pen eich hun neu gyda phobl/plant nad ydynt yn talu treth gyngor
- os ydych yn fyfyriwr
- os ydych yn anabl
- os oes gennych nam meddyliol difrifol
Mae’n flaenoriaeth gan Lywodraeth Cymru geisio deall pam y mae rhai aelwydydd agored i niwed yn dal i fethu ag elwa ar y cymorth y mae ganddynt hawl iddo. Aethom ati’r llynedd i gomisiynu gwaith ymchwil er mwyn deall amgylchiadau aelwydydd yng Nghymru a’r effaith y mae Credyd Cynhwysol Llywodraeth y DU yn ei chael ar Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor.
Mae’r adroddiad interim a gyhoeddir heddiw yn dangos bod newid i gael Credyd Cynhwysol, i lawer o aelwydydd, yn gallu cael effaith sylweddol ar ddyfarniadau gostyngiadau’r dreth gyngor. Er y bydd llawer o aelwydydd sy’n cael gostyngiad o 100% yn y dreth gyngor ar hyn o bryd yn parhau i’w gael, gwelir bod y newid i Gredyd Cynhwysol yn cael effaith negyddol ar rai aelwydydd, yn enwedig pan fo’r preswylwyr yn gyflogedig, yn hunangyflogedig, neu'n gweithio ac yn cael Lwfans Byw i’r Anabl neu Daliad Annibyniaeth Personol.
Mae canfyddiadau llawn yr adroddiad interim ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. Byddant yn cael eu hystyried yn fanylach yn awr er mwyn llywio camau nesaf y gwaith o ddatblygu ymchwil a pholisïau yn y maes hwn.
Wrth annog pobl i wneud yn siŵr eu bod yn manteisio ar y cymorth y gallai fod ganddynt hawl iddo, dywedodd y Gweinidog Cyllid Rebecca Evans:
“Mae sicrhau bod pob aelwyd yng Nghymru yn cael y cymorth y mae ganddynt hawl iddo â’u treth gyngor yn rhan bwysig o’n hymrwymiad i wneud y dreth yn decach.
“Mae ein cynllun yn helpu cannoedd o filoedd o aelwydydd drwy Gymru yn barod, ond fe wyddom bod llawer o rai eraill nad ydyn nhw’n cael y disgowntiau, y gostyngiadau a’r eithriadau y mae ganddynt hawl iddynt. Rwy’n annog pawb i gael golwg ar wefan Llywodraeth Cymru i ddarganfod a allent fod yn talu llai.”