English icon English

Amlinellu gweledigaeth ugain mlynedd ar gyfer datblygu yng Nghymru

Twenty year vision for development in Wales set out

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi lansio Cymru’r Dyfodol, sy’n nodi ble dylid datblygu tai, cyflogaeth a seilwaith i gefnogi ein trefi a’n dinasoedd, datgarboneiddio a sicrhau hinsawdd gadarn, a gwella iechyd a lles ein cymunedau.

Mae’r strategaeth ofodol genedlaethol yn amlinellu gweledigaeth ar gyfer datblygu yng Nghymru hyd at 2040.

Mae’r cynllun:

  • yn canolbwyntio ar ddatblygu ein hardaloedd trefol a sicrhau bod cartrefi, swyddi a gwasanaethau yn cael eu lleoli o fewn yr un ardal;
  • yn nodi Wrecsam a Glannau Dyfrdwy; Caerdydd, Casnewydd a’r Cymoedd; a Bae Abertawe a Llanelli fel ardaloedd pwysig yn genedlaethol o ran twf;
  • yn rhoi mwy o rym i gynghorau i wrthod caniatâd cynllunio ar gyfer ardaloedd siopa newydd y tu allan i drefi, a datblygiadau eraill y byddai’n well eu lleoli yng nghanol trefi;
  • yn amlinellu ardaloedd blaenoriaeth newydd o ran datblygiadau ynni gwynt a solar ar raddfa fawr i ddisodli Tan 8.

Dywedodd Julie James:

“Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi dangos inni pa mor bwysig yw lle rydyn ni’n byw o ran ein hiechyd a’n hapusrwydd. Mae’n haws cadw’n iach ac yn heini pan fydd ardaloedd gwyrdd diogel a deniadol gerllaw. Os gall mwy ohonon ni weithio’n lleol neu gartref, fe allwn ni gwtogi ar ein teithiau i’r gwaith, lleihau tagfeydd a siopa yn fwy lleol.

“Eisoes rydyn ni wedi ymrwymo i’r egwyddor o roi canol trefi yn gyntaf, sy’n golygu lleoli gwasanaethau ac adeiladau yng nghanol ein trefi lle bynnag y bo modd. Bydd y cynllun hwn yn help i weithredu hyn.

“Mae’r cynllun hwn yn amlinellu ein blaenoriaethau ar gyfer datblygu cyflogaeth a thai, yn benodol tai fforddiadwy. Mae’n nodi gweledigaeth ar gyfer creu pentrefi, trefi a dinasoedd y mae modd cerdded o un rhan i’r llall ynddynt, lle mae cartrefi, cyfleusterau lleol, ardaloedd gwyrdd a thrafnidiaeth gyhoeddus yn hawdd eu cyrraedd.

“Fe gafodd y gwaith cynllunio hwn ei wneud cyn pandemig COVID-19, ond mae byw drwy hwnnw wedi’i gwneud yn amlwg i bawb mor bwysig i’n hiechyd a’n lles yw cymunedau sy’n braf i fyw ynddynt.”

Dywedodd Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Lee Waters:

“Mae gyda ni uchelgais hirdymor i weld tua 30% o’r gweithlu yng Nghymru yn gweithio gartref neu’n gweithio o bell.

“Os oes mwy o hyblygrwydd i bobl o ran lle maen nhw’n gweithio, fe allan nhw osgoi teithiau hir i’r gwaith a lleihau tagfeydd ar y ffyrdd, sy’n cyfrannu at wella ansawdd yr aer.

“O ran ein gweledigaeth i drawsnewid trefi, rydyn ni’n gobeithio y bydd hyn yn dod â manteision i’n trefi a’n cymunedau, gan greu cyfleoedd newydd o safbwynt adfywio a gweithgarwch economaidd. Drwy gynllunio ein cymdogaethau yn llefydd i fyw, gweithio a chymdeithasu, mae cyfleoedd i leihau tagfeydd a llygredd a chreu cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith i gyflogeion a chyflogwyr fel ei gilydd.

“Rydyn ni newydd lansio ein Cenhadaeth o ran Cadernid ac Ailadeiladu Economaidd, sy’n amlinellu sut y byddwn ni’n ailadeiladu economi Cymru i fod yn fwy llewyrchus, cyfartal a gwyrdd nag erioed o’r blaen. Bydd y ffordd rydyn ni’n cynllunio ein cymunedau yn chwarae rôl bwysig yn hyn.”

Nodiadau i olygyddion

Embargo tan 00:01 o’r gloch, Dydd Mercher Chwefror 24 2021

 

**Nodyn i’r Dyddiadur – ddim i’w gyhoeddi, ei ddarlledu na’i rannu ar y cyfryngau cymdeithasol**

Cyfle i’r cyfryngau: Amlinellu gweledigaeth ugain mlynedd

ar gyfer datblygu yng Nghymru

Wrth i Lywodraeth Cymru lansio Cymru’r Dyfodol, gweledigaeth gynllunio Cymru hyd at 2040, bydd cyfleoedd i ffilmio ym Mharc yr Helyg, y Gellifedw, Abertawe.

Gall newyddiadurwyr gyfarfod ag un o drigolion yr ardal a’i gyfweld, a’i ffilmio y tu allan i’w gartref. Bydd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James, hefyd ar gael am gyfweliad ddydd Llun, a bydd Efa Lois Thomas o’r Comisiwn Dylunio ar gael am gyfweliad yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Mae paneli solar yn y cartrefi ynni-effeithlon hyn a chaiff pŵer ei storio mewn batris ym mhob un o’r tai. Cânt eu gwresogi drwy dechnoleg gwres o’r ddaear. Cafodd Cyngor Abertawe £1.5 miliwn gan Raglen Tai Arloesol Llywodraeth Cymru i ddatblygu’r cartrefi hyn fel gorsafoedd pŵer, a symudodd y trigolion i mewn i’r un eiddo ar bymtheg newydd tua diwedd y llynedd.

Mae’r Datganiad i’r Wasg o dan embargo tan 00:01 o’r gloch, dydd Mercher 24 Chwefror 2021.

I gael gwybod mwy neu i gadarnhau eich bod am fod yno, cysylltwch â Marie Concannon ar 07890 554 904 neu marie.concannon2@llyw.cymru neu gallwch gysylltu â Vicky.Ferris@llyw.cymru