English icon English

Amser o hyd i roi eich barn ar lunio dyfodol diwylliant yng Nghymru

Still time to provide opinion on shaping the future of culture in Wales

Gyda'r Eisteddfod Genedlaethol yn mynd rhagddi, mae Llywodraeth Cymru yn annog pobl i roi eu barn ar ei gweledigaeth ar gyfer y sector diwylliant, gydag ychydig llai na mis i fynd nes bydd yr ymgynghoriad yn cau.

Mae'r Blaenoriaethau drafft ar gyfer Diwylliant yn canolbwyntio ar dair prif flaenoriaeth:

  • Dod â phobl ynghyd drwy ddiwylliant
  • Hyrwyddo Cymru fel cenedl diwylliant
  • Sicrhau bod y sector diwylliant yn gydnerth ac yn gynaliadwy

Caiff y tair blaenoriaeth hyn eu hategu gan ugain uchelgais drafft sy'n cynnwys sicrhau bod diwylliant yn hygyrch i bawb yng Nghymru, meithrin cysylltiadau gartref a thramor drwy ddiwylliant a helpu'r sector i ffynnu nawr ac yn y dyfodol.

Mae'r blaenoriaethau drafft yn berthnasol i'r sector diwylliant cyfan yng Nghymru, o sefydliadau cenedlaethol i brosiectau llawr gwlad. Mae'r ymgynghoriad yn berthnasol hefyd i bob sefydliad sector cyhoeddus y mae'n ofynnol iddynt gyflawni nod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol o ‘Gymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu’.

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd yn gyfle delfrydol i ymwelwyr â stondin Llywodraeth Cymru gael rhagor o wybodaeth am yr ymgynghoriad gan y staff a rhoi eu hymateb.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant, Cyfiawnder Cymdeithasol, Y Trefnydd a'r Prif Chwip, Jane Hutt: “Mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn lle gwych i weld diwylliant Cymru ar waith ac, fel llywodraeth, rydym yn uchelgeisiol o ran ein gweledigaeth ar gyfer y sector nawr ac yn y dyfodol.

“Mae diwylliant yn chwarae rhan hynod bwysig ym mywydau pobl, gan ddod â phobl at ei gilydd a chefnogi cyfiawnder cymdeithasol.

“Mae'r blaenoriaethau drafft yn pennu'r cyfeiriad ar gyfer diwylliant yng Nghymru, gan ddefnyddio'r talentau a'r creadigrwydd sydd gennym o fewn y sector i sicrhau ei fod yn llwyddiannus ac yn gydnerth.

“Mae'n hanfodol bod gennym ni safbwyntiau cymaint o bobl â phosib fel rhan o'r ymgynghoriad – rydyn ni eisiau sicrhau bod y Blaenoriaethau'n gweithio i bawb.”

Mae ymgynghoriad y Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant: 2024-2030 ar agor a bydd yn cau ddydd Mercher 4 Medi.

I weld yr ymgynghoriad a rhoi eich barn ewch i: www.llyw.cymru/blaenoriaethau-drafft-ar-gyfer-diwylliant-yng-nghymru-2024-i-2030