English icon English
Ambulance front on

Amseroedd aros adrannau damweiniau ac achosion brys a’r Gwasanaeth Ambiwlans yn taro’r targed ar gyfer mis Ionawr

Improvements in emergency waiting times and Ambulance Service hits target for January

Ymateb Llywodraeth Cymru i’r ystadegau diweddaraf ar berfformiad Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) Cymru.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae staff rheng flaen y Gwasanaeth Iechyd yn gweithio’n galed iawn ac mae cynlluniau cadarn yn cael eu gwneud ar gyfer y gaeaf. Does ond angen sylweddoli bod Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi bodloni ei darged ar gyfer y cleifion mwyaf difrifol, y rheini yn y categori “coch”, a bod gwelliannau wedi cael eu gwneud yn erbyn y targed 4 awr ar gyfer adrannau damweiniau ac achosion brys ym mis Ionawr i werthfawrogi hynny. Mae’r gostyngiad a welwyd am yr ail fis yn olynol yn nifer yr achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal hefyd yn destun calondid. Cafodd y gwelliannau hyn eu gwneud er gwaetha’r pwysau eithriadol a wynebwyd. Dim ond un mis Ionawr prysurach na’r mis diwethaf a brofwyd erioed yn ein hadrannau damweiniau ac achosion brys.

“Rydyn ni’n cydnabod bod gormod o bobl yn treulio cyfnodau hir mewn adrannau brys wrth aros am wely yn yr ysbyty. Rhyddhawyd £40m arall gennym y gaeaf hwn ac rydyn ni’n disgwyl i’r sefyllfa wella felly. 

“Mae amseroedd aros am ofal wedi’i drefnu yn cael eu heffeithio’n sylweddol gan y ffaith bod meddygon yn lleihau eu horiau oherwydd newidiadau i reolau treth pensiynau CThEM. Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am y newidiadau hynny. Erbyn diwedd mis Rhagfyr, oherwydd y newidiadau hyn, collwyd tua 3,200 o sesiynau, ac effeithiwyd ar bron i 27,000 o gleifion. Mae Gweinidog Iechyd Llywodraeth Cymru wedi galw unwaith eto ar Lywodraeth y DU i ddatrys y mater hwn ar fyrder.”

Nodiadau i olygyddion

Mae'r ystadegau ar gael yma: https://llyw.cymru/crynodeb-perfformiad-gweithgaredd-y-gig-rhagfyr-2019-i-ionawr-2020