English icon English

Annog ceidwaid adar yng Nghymru i gadw llygad wrth i nifer yr achosion o ffliw adar godi ym Mhrydain Fawr

Bird keepers in Wales urged to be vigilant as cases of avian flu rise in Great Britain.

Yn dilyn nifer cynyddol o achosion o ffliw adar mewn dofednod ac adar a gedwir, mae Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) wedi datgan Parth Atal Ffliw Adar rhanbarthol (AIPZ) ar draws Dwyrain Swydd Efrog, dinas Kingston Upon Hull, Swydd Lincoln, Norfolk a Suffolk.

O fewn yr AIPZ hwn, mae camau bioddiogelwch gwell yn ofynnol ar sail orfodol i helpu i atal clefydau rhag mynd i mewn i heidiau ac atal unrhyw ledaeniad pellach.

Rydym bellach mewn cyfnod o risg uwch o ffliw adar pathogenig iawn (HPAI) ledled y DU, ac anogir pob ceidwad adar yng Nghymru i gadw llygad a chymryd camau i ddiogelu eu heidiau yn dilyn yr achosion diweddar hyn o ffliw adar.

Bydd datblygiadau pellach yn dibynnu ar y darlun o'r clefyd wrth iddo esblygu. Gallai hyn gynnwys ehangu'r AIPZ yn Lloegr, mesurau ychwanegol o ran cadw adar dan do, neu roi mesurau diogelu gorfodol ar waith ledled Prydain Fawr. Bydd y gofyniad i ehangu'r AIPZ ac unrhyw orchmynion cadw dan do yn y dyfodol yn cael ei adolygu'n gyson.

Mae mesurau hylendid a bioddiogelwch manwl a thrylwyr yn cynnig yr amddiffyniad gorau i gadw ffliw adar allan o heidiau, meddai Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Dr Richard Irvine: “Mae cyfnod mudo'r gaeaf yn dod â risg uwch i ddofednod ac adar a gedwir ac rydym wedi gweld cynnydd diweddar o ran nifer yr achosion o ffliw adar a gadarnhawyd mewn adar gwyllt ac adar a gedwir ledled y DU.

“Mae cael mesurau hylendid a bioddiogelwch gofalus a thrylwyr ar waith bob dydd yn cynnig yr amddiffyniad gorau ar gyfer adar a gedwir yn erbyn y clefyd heintus iawn hwn. Mae pob ceidwad adar yng Nghymru yn cael eu hannog i weithredu nawr i ddiogelu eu heidiau rhag ffliw adar a'i atal rhag lledaenu.

"Mae bod ar ein gwyliadwriaeth hefyd yn allweddol. Mae'n bwysig eich bod yn rhoi gwybod ar unwaith am unrhyw arwyddion neu amheuon bod ffliw adar yn eich haid.”

Mae rhagor o gyngor i geidwaid dofednod ac adar caeth ar sut i gadw eu heidiau'n ddiogel ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru, gan gynnwys y rhestr wirio hunanasesu bioddiogelwch.

Mae bellach yn ofyniad cyfreithiol hefyd i bob ceidwad adar yng Nghymru (a Lloegr) gofrestru eu hunain gyda'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA). Drwy gofrestru adar, bydd APHA yn gallu cysylltu â cheidwaid gyda diweddariadau a chanllawiau os oes brigiad o achosion o glefyd yn yr ardal, gan helpu ceidwaid i wneud penderfyniadau gwybodus i gadw adar yn ddiogel.

Mae rhagor o wybodaeth am y mesurau sy'n berthnasol yn y parthau yn Lloegr i'w gweld yng nghanllawiau DEFRA: Ffliw adar: rheolau ym mharthau rheoli clefyd yn Lloegr - GOV.UK.

Mae'r datganiadau parth ar gael drwy'r offeryn canfod achosion o glefyd hysbysadwy.

Mae manylion y lefelau risg cenedlaethol cyfredol ar gyfer ffliw adar i'w gweld yn gov.uk/birdflu ac mae rhagor o wybodaeth am y dystiolaeth sy'n cefnogi'r lefelau hyn ar gael yn asesiadau risg ac achosion APHA.

Dylech barhau i roi gwybod os ydych yn dod o hyd i unrhyw adar gwyllt marw i linell gymorth DEFRA ar 03459 33 55 77, a dylai ceidwaid barhau i adrodd yn brydlon os amheuir bod clefyd yn eu hadar i APHA ar 0300 303 8268.