English icon English
coronafeirws

Annog Cymry sy’n dychwelyd o’u gwyliau i gadw at reolau cwarantin i atal lledaeniad COVID-19

Welsh holidaymakers urged to follow quarantine rules to stop Covid-19 spread

Atgoffir pobl sy’n dychwelyd o’u gwyliau i ddilyn rheolau cwarantin ar ôl dychwelyd i Gymru o dramor er mwyn atal lledaeniad coronafeirws.

Mae clystyrau o achosion positif wedi’u hadrodd yng Nghymru sy’n deillio o bobl sydd wedi dychwelyd o’u gwyliau, ond heb hunanynysu am 14 diwrnod yn ôl y gofyn.

Gall rhagor o achosion fel hyn gynyddu’r gyfradd drosglwyddo yng Nghymru a rhoi rhai o’r bobl fwyaf agored i niwed mewn perygl o ddal yr haint.

Cyfrifoldeb teithwyr yw gwirio a oes angen iddynt hunanynysu ar ôl dychwelyd i Gymru, oherwydd gall y rhestr newid ar unrhyw adeg. Mae’r wybodaeth ddiweddaraf i’w chael yma https://www.gov.uk/guidance/coronavirus-covid-19-travel-corridors

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething: “Mae cyfraddau trosglwyddo COVID-19 yn y gymuned yn isel iawn yng Nghymru ar hyn o bryd ac mae’n bwysig bod hynny’n parhau fel y gallwn gadw’r rhyddid newydd sydd wedi’u cyflwyno.

Mae’r rheol cwarantin 14 diwrnod yn berthnasol i bobl sy’n dychwelyd adref o rai gwledydd sydd â chyfraddau trosglwyddo uwch. Mae’n hanfodol bod unrhyw un sy’n dychwelyd o’r gwledydd hyn yn hunanynysu ac yna yn archebu prawf os ydynt yn datblygu symptomau.

Gall ymddygiad difeddwl gan y lleiafrif roi rhai o’r bobl fwyaf agored i niwed mewn perygl o ddal yr haint.

Diolch i gydweithrediad ac aberth y cyhoedd yng Nghymru rydym wedi gallu rheoli lledaeniad y feirws yma. Ond ni allwn laesu dwylo ac mae’n bwysig i bawb ddal ati i ddilyn y canllawiau, cadw pellter cymdeithasol a golchi eu dwylo yn rheolaidd.”

Dylai teithwyr ddarllen y cyngor diweddaraf gan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad cyn teithio a chyn dychwelyd adref. Mae’r cyngor diweddaraf ar gael yma https://www.gov.uk/guidance/travel-advice-novel-coronavirus#covid-19-travel-guidance