English icon English
Ips typograophus -2

Annog perchnogion tir i gadw golwg am arwyddion o'r chwilen rhisgl sbriws wythddant

Landowners urged to be on the lookout for signs of the eight-toothed spruce bark beetle

Mae Prif Swyddog Iechyd Planhigion Cymru yn gofyn i bob perchennog tir, coedwigwr a ffermwr i gadw golwg am arwyddion o Ips typographus.

Mae Ips typographus, a elwir hefyd yn chwilen rhisgl sbriws wythddant, yn bla difrifol ar goed sbriws yn Ewrop a nodwyd gyntaf yn y DU yn 2018. Eleni am y tro cyntaf, fe wnaethom ddal nifer fach iawn o chwilod mewn trap gwyliadwriaeth yn Sir Fynwy. Cynhaliodd Cyfoeth Naturiol Cymru, ar y cyd â phartneriaid y gwasanaeth iechyd planhigion, ymchwiliadau cyflym ac maent wedi cadarnhau nad oes tystiolaeth o frigiad o achosion yn yr ardal.

Mae canfyddiadau diweddar yn Lloegr hefyd wedi dangos y pla ar goed sbriws Sitka yn y DU am y tro cyntaf.

Os na chaiff ei reoli, mae gan y chwilen y potensial i achosi difrod sylweddol i ddiwydiannau coedwigaeth a phren Prydain sy'n seiliedig ar sbriws.

Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog sydd â chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd, Huw Irranca-Davies: "Cadwch olwg am arwyddion o'r chwilen rhisgl sbriws wythddant (Ips typographus) gan ei bod yn cael ei hystyried yn bla difrifol i goed sbriws.

“Os ydych chi'n meddwl eich bod wedi sylwi ar arwyddion o'r chwilen hon, anfonwch eich canfyddiadau drwy'r ffurflen Rhybudd Coed.” 

Mae Rhwydwaith Gwyliadwriaeth Iechyd Planhigion Cymru wedi sefydlu trapiau ledled Cymru i'n helpu i gadw llygad ar iechyd ein coed.

Mae'r rhwydwaith yn cynnwys trapiau sborau a fferomonau i ganfod plâu a chlefydau sy'n cael eu monitro gan wyddonwyr o Forest Research. Mae rhwydweithiau gwyliadwriaeth ledled Prydain hefyd sy'n cefnogi Llywodraeth Cymru i fonitro iechyd ein coedwigoedd.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar  Tree Alert (forestresearch.gov.uk) a dylech roi gwybod am unrhyw bryderon drwy TreeAlert. Gallwch hefyd gyflwyno ffurflen rhybudd coed os yw eich coetir sbriws yn dangos arwyddion o ddirywiad neu straen.