English icon English
Domestic abuse -4

Anogir goroeswyr cam-drin domestig a thrais rhywiol i geisio cymorth yn ystod y cyfnod o gloi mewn argyfwng

Domestic abuse and sexual violence survivors encouraged to seek help during firebreak lockdown

Heddiw, mewn apêl uniongyrchol ar drothwy’r cyfnod atal byr, gofynnodd y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip, Jane Hutt, i ffrindiau a chymdogion gadw llygad am arwyddion o gam-drin domestig, ac anogodd ddioddefwyr a goroeswyr i geisio cymorth a dianc o'u cartrefi os oes angen.

Bydd y gwasanaethau arbenigol yn parhau i fod ar agor ac ar gael i helpu’r rhai sy’n dioddef niwed neu gamdriniaeth yn ystod y cyfnod atal byr. Bydd gwasanaethau i gyflawnwyr, sy'n ceisio atal achosion o gam-drin domestig rhag digwydd, hefyd yn parhau i fod ar agor er mwyn darparu cymorth.

Dywedodd Jane Hutt:

"Gall cyfnodau o argyfwng arwain at gynnydd mewn achosion o drais domestig, ac nid yw’r cartref bob amser yn fan diogel.

"Mae'n hanfodol, os ydych mewn perygl, i chi ofyn am gymorth ar unwaith. Ni fyddwch yn cael eich cosbi os bydd angen i chi adael eich cartref i ofyn am help, ac fe fydd gwasanaethau arbenigol ar agor ac yn gweithredu, bydd llochesi yn derbyn atgyfeiriadau, ac fe fydd cymorth ar gael i'ch helpu.

"Rwyf am bwysleisio hyn – os ydych mewn perygl neu os oes angen i chi adael eich cartref i ddianc rhag camdriniaeth ddomestig, cewch wneud hynny – ni fyddwch yn cael eich cosbi. Gallwch groesi ffiniau sirol a theithio lle bynnag y bo angen, a gall gwasanaethau arbenigol helpu i ddod o hyd i lety a chymorth brys addas i chi.

"Rwy'n annog cymunedau, ffrindiau, cymdogion, gweithwyr post a gyrwyr faniau dosbarthu ledled Cymru i gadw llygad ar ei gilydd, a gweithredu ar ran dioddefwyr camdriniaeth sydd angen help. Mae'n gyfnod brawychus i bob un ohonom, ond gallai'r rhai sydd mewn perygl o gael eu cam-drin fod o fewn dim i golli eu bywydau.

"Mae'n bwysig iawn, er eich diogelwch chi a'r dioddefwr, nad ydych yn ymyrryd eich hun, ond gallwch helpu drwy ffonio 999 mewn argyfwng neu Byw Heb Ofn (manylion cyswllt isod). Gallech achub bywyd."

Os ydych chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod yn dioddef camdriniaeth gorfforol neu emosiynol wrth law partner, dyma rai ffyrdd o gael help:

  • Os na allwch siarad yn ddiogel, ond bod angen help arnoch ar unwaith, bydd heddluoedd ledled Cymru yn ymateb i alwad dawel 999 – dylech ddeialu 999, ac yna 55 pan fydd y gweithredwr yn ateb i ddangos na allwch siarad, ond bod angen help arnoch.
  • Ymysg yr arwyddion o gamdriniaeth y tu ôl i ddrysau caeedig mae gweiddi mynych, synau pethau'n cael eu taro, eu chwalu neu eu torri, crio parhaus neu bledio i stopio. Efallai y bydd gan ddioddefwyr friwiau neu gleisiau, golwg ddryslyd neu flêr, neu gallant fod yn bryderus neu gadw at eu hunain.
  • Os ydych yn poeni am eich ymddygiad eich hun, gallwch gael cymorth heb feirniadaeth drwy gysylltu â Llinell Ffôn Respect: https://respectphoneline.org.uk/ Ffôn: 0808 8024 040