Ap COVID-19 y GIG yn lansio ledled Cymru a Lloegr
NHS COVID-19 app launches across Wales and England
Mae pobl ledled Cymru a Lloegr yn cael eu hannog i lawrlwytho ap COVID-19 y GIG i helpu i atal lledaeniad y coronafeirws a gwarchod eu hunain a’u hanwyliaid wrth i nifer yr achosion gynyddu.
Mae’r ap yn lansio heddiw [dydd Iau 24] ar ôl treialon cadarnhaol a bydd yn adnodd defnyddiol i’w roi ar waith ochr yn ochr â system olrhain cysylltiadau faniwal lwyddiannus Cymru.
Bydd ar gael i bawb sy’n 16 oed neu ragor, ac mae’n rhan ganolog o raglen Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru i adnabod cysylltiadau’r rhai sydd wedi profi’n bositif am y coronafeirws.
Mae ehangu’r ap yng Nghymru’n cyd-fynd ag ymgyrch genedlaethol o ran sut gall pobl yng Nghymru gefnogi’r rhaglen Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru yn y ffordd orau, gan gynnwys dim ond cael prawf os ydynt yn dangos symptomau; hunanynysu pan fo angen; a gweithio gydag olrheinwyr cysylltiadau lleol os cysylltir â hwy.
Mae system olrhain cysylltiadau Cymru – sy’n wasanaeth sy’n cael ei redeg yn gyhoeddus a’i gyflwyno’n lleol – yn gweithio’n dda ac mae wedi gweld cyfradd gysylltu ac olrhain uchel iawn. Mae’r ystadegau diweddaraf yn dangos bod cyswllt llwyddiannus wedi’i sicrhau â 94% o’r rhai a gafodd prawf.
Mae’r ap yn gweithio drwy gofnodi faint o amser rydych chi’n ei dreulio wrth ymyl defnyddwyr eraill yr ap, a’r pellter rhyngoch chi, fel ei fod yn gallu rhoi gwybod i chi os bydd rhywun rydych chi wedi bod yn agos ato’n profi’n bositif yn ddiweddarach am COVID-19 – hyd yn oed os nad ydych chi’n adnabod eich gilydd.
Bydd yr ap yn eich cynghori chi i hunanynysu os ydych chi wedi bod mewn cysylltiad agos ag achos wedi’i gadarnhau. Bydd hefyd yn galluogi i chi wirio symptomau, trefnu prawf os oes angen, a chael canlyniadau eich prawf.
Dywedodd Gweinidog Iechyd Cymru Vaughan Gething:
“Mae lansiad ap COVID-19 y GIG yn rhan bwysig o ymateb Cymru i’r coronafeirws, gan ategu’r rhaglen Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru. Po fwyaf o bobl fydd yn lawrlwytho’r ap, y mwyaf y bydd yn ein helpu ni i atal lledaeniad COVID-19.
“Rydyn ni wedi gweithio’n agos gyda thîm datblygu’r ap i sicrhau ei fod yn gweithio’n hwylus ledled Cymru a Lloegr, gan roi cyngor priodol i bobl yn seiliedig ar ble maen nhw’n byw. Yng Nghymru, bydd yr ap yn ategu ein gwasanaethau olrhain cysylltiadau a phrofi presennol a bydd yn rhoi cefnogaeth bellach i’n hymateb cydlynol i COVID-19 ar lefel leol a chenedlaethol.
“Rydw i wir yn annog pawb yng Nghymru i lawrlwytho a defnyddio’r ap i gadw Cymru’n ddiogel.”
Mae’r ap wedi cael ei gynllunio gan feddwl am breifatrwydd defnyddwyr, felly mae’n tracio’r feirws, nid pobl, ac yn defnyddio’r dechnoleg diogelu data ddiweddaraf er mwyn gwarchod preifatrwydd. Mae’r system yn creu cyfeirnod ar hap i ddyfais unigolyn, y gellir ei gyfnewid rhwng dyfeisiau gan ddefnyddio Bluetooth. Mae’r cyfeirnodau ar hap unigryw yma’n adnewyddu’n rheolaidd er mwyn ychwanegu haen arall o ddiogelwch ac i sicrhau eich bod yn ddienw.
Nid yw’r ap yn cadw eich gwybodaeth bersonol fel eich enw, cyfeiriad neu ddyddiad geni, a dim ond hanner cyntaf eich cod post mae ei angen hefyd i sicrhau bod posib rheoli achosion lleol.
Heddiw mae gweithredwyr mawr rhwydwaith symudol y DU, gan gynnwys Vodafone, Three, EE ac O2, Sky a Virgin, wedi cadarnhau na fydd yr holl weithgarwch ar yr ap yn dod o lwfans data eu cwsmeriaid.
Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd Apple a Google:
“Rydyn ni wedi creu’r system hysbysiadau am gyswllt er mwyn cynorthwyo awdurdodau iechyd cyhoeddus gyda’u hymdrechion i ddatblygu apiau i helpu i leihau lledaeniad y feirws a hefyd sicrhau bod pobl yn gallu ymddiried yn y dyluniad sy’n gwarchod preifatrwydd. Rydyn ni wedi ymrwymo i gefnogi ymdrech y llywodraeth i lansio ap yn seiliedig ar y dechnoleg hon.”
Er y bydd yr ap yn gymorth mawr i’r system olrhain cysylltiadau, mae trigolion Cymru’n cael eu hatgoffa i barhau i gadw Cymru’n ddiogel ac atal lledaeniad COVID-19 drwy wneud y canlynol:
- Cadw pellter bob amser
- Golchi dwylo yn rheolaidd
- Gweithio o gartref os yw hynny’n bosib
- Cadw at gyfyngiadau lleol
- Cadw at y rheolau am gyfarfod pobl
- Aros gartref os oes gennych chi neu unrhyw un yn eich aelwyd estynedig symptomau.