English icon English

Ap newydd i roi cyngor arbenigol mewn eiliadau i feddygon teulu

New app to provide specialist advice to GPs in seconds

Mae’r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, wedi cymeradwyo £650,000 o gyllid ar gyfer system newydd sy’n galluogi i feddygon teulu, parafeddygon a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill i gael cyngor arbenigol pan fyddant yn adolygu a thrin cleifion.

Mae’r ap Consultant Connect wedi’i roi ar lwybr carlam i’w ddefnyddio gan GIG Cymru i helpu i ymdrin â’r achosion o COVID-19 a chefnogi’r gwasanaeth gofal sylfaenol yn yr hirdymor i gynnig gwell cyngor ac arweiniad i gleifion.

Drwy roi mynediad cyflym i gyngor bydd yr ap newydd yn atal derbyniadau ac atgyfeiriadau diangen i’r ysbyty ac yn sicrhau bod y bobl hynny sydd angen triniaeth yn yr ysbyty yn ei chael.

Mae’r gwasanaeth craidd, sy’n cael ei gyflwyno ar draws Cymru, yn rhoi mynediad i glinigwyr at arbenigwyr mewn meddygaeth anadlol, cardioleg, diabetes, gofal lliniarol a meddygaeth acíwt ar gyfer COVID. Gall y Byrddau Iechyd hefyd gael mynediad at ystod o gyngor lleol sy’n briodol i anghenion eu cleifion.

Gall meddyg teulu neu glinigwr arall gael mynediad i’r gwasanaeth naill ai drwy ddeialu rhif ffôn neu drwy ddefnyddio’r ap Consultant Connect. Ar ôl dewis arbenigedd o ddewislen byddant yn cael eu cysylltu ag arbenigwr mewn 25 eiliad, ar gyfartaledd.

Dywedodd y Gweinidog: “Rwy’n falch iawn ein bod yn gallu dechrau cynnig yr ap Consultant Connect o fewn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru. Bydd hyn yn helpu i gefnogi gweithwyr gofal sylfaenol i benderfynu ar y driniaeth gywir ar gyfer eu cleifion.

“Yn awr, bydd yn arbed amser gwerthfawr i weithwyr gofal iechyd proffesiynol ac yn lleihau nifer yr ymweliadau y mae’n rhaid i gleifion eu gwneud i’r ysbyty, ar adeg pan fo ein Gwasanaeth Iechyd o dan bwysau ychwanegol.

“Yn yr hirdymor, mae’r defnydd o’r dechnoleg hon yn rhan bwysig o’n cynllun ar gyfer dyfodol iechyd a gofal cymdeithasol, Cymru Iachach. Mae gwneud y mwyaf o dechnoleg yn hanfodol i greu gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol modern, lle bydd gofal yn cael ei ddarparu yn agosach at y cartref.”