Arbenigwyr o Gaerdydd, yr LSE a Harvard yn ymuno i ymchwilio i her cynhyrchiant Cymru
Cardiff, LSE and Harvard economists join forces to investigate Wales's productivity gap
- Mae arbenigwyr blaenllaw o Gymru, y DU a'r Unol Daleithiau yn dod ynghyd i helpu i fynd i'r afael â her cynhyrchiant Cymru
- Bydd ymchwil annibynnol yn edrych ar y ffactorau sy'n effeithio ar gynhyrchiant ac yn nodi cyfleoedd i gryfhau economi Cymru
- Bydd y canfyddiadau'n helpu i lywio penderfyniadau economaidd a meithrin gallu ymchwilio hirdymor yng Nghymru
Mae economyddion blaenllaw o Gymru, y DU a'r Unol Daleithiau yn dod ynghyd i helpu Cymru i wneud y mwyaf o'i photensial economaidd, gan ganfod ffyrdd newydd o helpu busnesau i dyfu, creu swyddi da gyda chyflog da a gwella safonau byw.
Mae’r Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni, Adam Price, wedi cyhoeddi sefydlu Grŵp Ymchwil Cynhyrchiant Cymru, cydweithrediad academaidd newydd sy'n dwyn ynghyd arbenigwyr o Brifysgol Caerdydd, Ysgol Economeg Llundain (LSE) a Phrifysgol Harvard yn yr Unol Daleithiau.
Bydd y grŵp yn ymchwilio i'r ffactorau sy'n effeithio ar gynhyrchiant yng Nghymru, gan gynnwys buddsoddiad busnesau, sgiliau, twf cwmnïau a chyfleoedd i ddatblygu gweithgareddau economaidd o werth uwch. Bydd hefyd yn archwilio'r cysylltiad rhwng cynhyrchiant, cyflogau, swyddi da a safonau byw.
Bydd yr ymchwil annibynnol yn helpu i gryfhau'r sylfaen dystiolaeth am economi Cymru drwy greu darlun cliriach o'r heriau a'r cyfleoedd sy'n wynebu'r wlad. Y nod yw darparu'r mewnwelediad sydd ei angen ar lywodraethau, busnesau a sefydliadau cyhoeddus i wneud penderfyniadau sy'n helpu economi Cymru i ffynnu.
Mae cynhyrchiant yn mesur pa mor effeithlon y mae busnesau'n cynhyrchu nwyddau a gwasanaethau. Gall gwell cynhyrchiant helpu busnesau i dyfu, talu cyflogau uwch a gwneud defnydd gwell o'u hamser, eu harian a'u hadnoddau.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed i haneru'r gwahaniaeth rhwng cynhyrchiant Cymru a gweddill y DU dros y degawd nesaf.
Bydd y grŵp yn cael ei arwain gan dri economegydd blaenllaw: yr Athro Melanie Jones o Ysgol Busnes Caerdydd, yr Athro Richard Davies o Ysgol Economeg Llundain a'r Athro Ricardo Hausmann o’r Harvard Growth Lab.
Bydd yr ymchwil yn gwbl annibynnol yn academaidd, a'r ymchwilwyr fydd yn gyfrifol am eu dulliau ymchwil, eu canfyddiadau a'u cyhoeddiadau.
Bydd y cydweithrediad hefyd yn helpu i ddatblygu sgiliau ymchwil ac offer dadansoddi yng Nghymru, gan rannu canfyddiadau'r ymchwil a sicrhau bod yr offer a'r allbynnau a ddatblygir ar gael i'r cyhoedd.
Dywedodd yr Athro Ricardo Hausmann o’r Harvard Growth Lab:
"Mae Cymru wedi gosod nodau uchelgeisiol i’w hun, ac rydym yn edrych ymlaen at ddatblygu ymchwil ymarferol a all helpu i lywio'r gwaith o'u cyflawni.
"Ein nod yw deall yn well beth sy'n dal economi Cymru yn ôl, ac i nodi'r cyfleoedd sydd o’i blaen ar sail yr wybodaeth, y sgiliau a'r arbenigedd sydd eisoes ganddi. Ni fydd yr atebion yr un fath ym mhob rhan o Gymru, a bydd deall y gwahaniaethau hynny yn rhan ganolog o'n gwaith.
Yr un mor bwysig, rydym am sicrhau bod gan Gymru'r offer, y dulliau a'r sgiliau i barhau i fynd i'r afael â'r cwestiynau hyn ymhell ar ôl i'r rhaglen ddod i ben."
Dywedodd yr Athro Melanie Jones o Brifysgol Caerdydd:
"Rwy'n falch iawn o arwain cyfraniad Prifysgol Caerdydd at Grŵp Ymchwil Cynhyrchiant Cymru.
"Bydd y cydweithrediad hwn yn dod ag arbenigwyr blaenllaw ym maes twf economaidd ynghyd i wella ein dealltwriaeth o economi Cymru heddiw ac i ddatblygu gallu ymchwil ar gyfer y dyfodol yng Nghymru.
"Mae hyn yn hanfodol er mwyn datblygu polisïau economaidd effeithiol sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac sy'n gwella safonau byw."
Dywedodd yr Athro Richard Davies o Ysgol Economeg Llundain:
"Cynhyrchiant yw sylfaen twf economaidd cadarn. Pan fydd yn cynyddu, mae cyflogau'n codi, mae busnesau'n fwy llwyddiannus ac mae gwasanaethau cyhoeddus o safon yn fwy cynaliadwy.
"Dyma pam mae her cynhyrchiant Cymru mor bwysig. Roedd Cymru ar un adeg ymhlith canolfannau mwyaf blaenllaw'r byd ym maes diwydiant ac arloesi, ond mae degawdau o ddad-ddiwydiannu wedi gadael eu hôl.
"Dros y flwyddyn nesaf, byddwn yn chwilio am y dystiolaeth orau i helpu Cymru i wireddu ei photensial unwaith eto. Ar yr un pryd, byddwn yn meithrin asedau fydd o fudd hirdymor, gan gynnwys setiau data gwell, offer polisi amser real a gallu ymchwil cryfach. Bydd hyn yn waith gwirioneddol gydweithredol, ac mae'n fraint cael helpu i'w arwain."
Dywedodd Adam Price, y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni:
"Mae gan Gymru botensial aruthrol, ac mae dod ag arbenigwyr economaidd blaenllaw ynghyd yn rhoi cyfle gwirioneddol i ni ddeall yn well sut y gallwn wneud y mwyaf o'r potensial hwnnw.
"Bydd eu gwybodaeth a'u profiad yn ein helpu i ddysgu o lwyddiant mewn mannau eraill, herio ffyrdd sefydledig o feddwl a nodi cyfleoedd newydd i Gymru.
"Mae hyn yn ymwneud â throi ymchwil o'r radd flaenaf yn fuddion go iawn i Gymru, gan helpu busnesau i dyfu, creu swyddi gwell a gwella cyfleoedd i bobl a chymunedau ledled y wlad."
Nodiadau i olygyddion
- Mae Llywodraeth Cymru yn cyfrannu £1.2 miliwn o gyllid grant
- Bydd y rhaglen gychwynnol yn rhedeg am 12 mis
- Bydd canfyddiadau'r ymchwil, offer data a gweithgareddau meithrin gallu ar gael i'r cyhoedd fel rhan o'r Rhaglen
- Yn 2023, roedd cynhyrchiant yng Nghymru tua 15% yn is na chyfartaledd y DU. Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed i haneru'r gwahaniaeth rhwng cynhyrchiant Cymru a gweddill y DU o fewn deng mlynedd.
- I gael rhagor o wybodaeth am Grŵp Ymchwil Cynhyrchiant Cymru ac i gofrestru i dderbyn diweddariadau am ei ymchwil a'i weithgareddau, ewch i: https://productivity.cymru/