English icon English

‘Arddangosfa wych’ y Sioe Frenhinol ddim yn bosibl heb ein ffermwyr ni – Dirprwy Brif Weinidog

‘Magnificent showcase’ of Royal Welsh not possible without our farmers – Deputy First Minister

Wrth i Sioe Frenhinol Cymru ddechrau yn Llanelwedd, mae'r Dirprwy Brif Weinidog sydd â chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies, wedi canmol ffermwyr am fod yn 'asgwrn cefn ein cymunedau gwledig'.

Wrth siarad cyn y sioe, cadarnhaodd lansio'r 'Canllaw Cyflym', gan alluogi i ffermwyr ddarganfod beth fydd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn ei olygu iddyn nhw.

Hefyd rhoddodd y Dirprwy Brif Weinidog sicrwydd a sefydlogrwydd drwy gyhoeddi naw cynllun paratoadol y CFfC, sy’n werth mwy na £33m, i gefnogi busnesau fferm yn ystod y cyfnod pontio:

“Mae'r Sioe wir yn uchafbwynt yr haf i mi ac mae'n cynrychioli calon cefn gwlad Cymru, gan arddangos y dalent, yr arloesedd a'r ymroddiad rhyfeddol sy'n diffinio amaethyddiaeth yng Nghymru.

“Mae hyn ar ei amlycaf ym mrwdfrydedd ein cenhedlaeth nesaf ni o ffermwyr sy'n ddyfodol disglair amaethyddiaeth yng Nghymru.

“Ni fyddai'r arddangosfa wych hon yn bosibl heb ein ffermwyr ni sy'n cynhyrchu'r bwyd o ansawdd uchel rydyn ni'n ei fwyta, yn rheoli'r tir ac sydd wedi helpu i siapio'r dirwedd rydyn ni i gyd mor falch ohoni.”

Am y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog:  

“Y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yw dyfodol ffermio yng Nghymru.”

“Wedi'i lunio ar sail cydweithrediad, mae'r Cynllun yn darparu sefydlogrwydd y mae ei wir angen ar ffermwyr sy'n chwarae rhan ganolog mewn cynhyrchu bwyd a gwarchodaeth amgylcheddol, gan helpu eu busnesau i fod yn wydnach ac yn fwy cynhyrchiol a chynaliadwy.

“Rydw i eisiau bod yn glir iawn, y Cynllun rydw i wedi'i gyhoeddi yw'r Cynllun y byddwn yn ei gyflwyno yn 2026.

“Rydw i'n credu'n gryf mai'r peth gwaethaf i ffermwyr nawr yw unrhyw awgrym y bydd yn cael ei addasu, ei ailfodelu neu ei ddychwelyd at y bwrdd i’w aildrafod yn gyfan gwbl.

“Mae ffermwyr ac undebau ffermio wedi gofyn i ni ddarparu sicrwydd a dyma beth rydyn ni wedi'i wneud."

Am lansio'r Canllaw Cyflym, dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog:

“Cyhoeddais ddisgrifiad manwl sy'n egluro'n glir beth fydd angen i ffermwyr ei wneud fel rhan o'r Cynllun, a sut gallant baratoi nawr i wneud mynediad at y Cynllun yn haws fyth y flwyddyn nesaf.  

“Rydw i hefyd yn falch o gyhoeddi y prynhawn yma y bydd ffermwyr, o heddiw ymlaen, yn gallu defnyddio’r Canllaw Cyflym sydd ar gael ar ein gwefan ni.

“Mae hwn yn adnodd syml a fydd yn rhoi gwerth Taliad Cyffredinol dangosol y CFfC i bob ffermwr yn ogystal â gwerth taliad taprog BPS ar gyfer 2026.

“Hoffwn annog pawb sydd ar faes y sioe i ddod i siarad gyda fy swyddogion i am help a chefnogaeth i ddarganfod yn union beth fydd y Cynllun yn ei olygu iddyn nhw.

“Rydyn ni yma yr wythnos hon, ac yn ystod y misoedd nesaf mewn sioeau rhanbarthol a digwyddiadau eraill, i’ch helpu chi i wneud penderfyniadau.”

Wrth gyhoeddi naw cynllun paratoadol y CFfC i gefnogi busnesau fferm yn ystod y cyfnod pontio i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog:

“Ar sail fy sgyrsiau helaeth i gyda ffermwyr dros y flwyddyn ddiwethaf, rydw i’n gwybod bod darparu sicrwydd a sefydlogrwydd ar frig agenda y rhan fwyaf ohonyn nhw.

“Dyma pam rydw i hefyd yn falch iawn o gadarnhau heddiw y bydd naw cynllun paratoadol y CFfC yn agor yn ystod y dyddiau, yr wythnosau a’r misoedd nesaf ar gyfer blwyddyn ariannol 2026-27 - gan ddarparu mwy na £33m i gefnogi busnesau fferm yn ystod y cyfnod pontio i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd.

“Bydd y cyllid hwn yn helpu ffermwyr i fuddsoddi mewn rheoli maethynnau, gwelliannau amgylcheddol ac offer effeithlonrwydd wrth gyflawni manteision amgylcheddol fel ansawdd dŵr a bioamrywiaeth.”

Wrth gloi ei araith, dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog:

“Y peth gwych am fod yma, i gyd gyda’n gilydd, dros y dyddiau nesaf yw y gallwn ni barhau â’n hymgysylltu pwysig - gwrando a dysgu oddi wrth ein gilydd.

“Rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at wythnos gyffrous o’n blaen ac yn dymuno’r gorau i Sioe Frenhinol Cymru a phawb sy’n gysylltiedig â hi.”

Nodiadau i olygyddion

Cynlluniau paratoadol y CFfC:

  1. Cynllun Adnoddau Naturiol Integredig.
  2. Cynllun Buddsoddi mewn Rheoli Maethynnau
  3. Grantiau Bach – Gorchuddio Iardiau
  4. Trosi Organig
  5. Tyfu er Lles yr Amgylchedd
  6. Grantiau Bach – Amgylchedd
  7. Grantiau Bach – Effeithlonrwydd
  8. Grantiau Bach - Busnes Garddwriaethol Newydd
  9. Arallgyfeirio Amaethyddiaeth a Garddwriaeth