Ardoll ymwelwyr i gefnogi twristiaeth yn dod yn gyfraith
Visitor levy to support tourism becomes law
Mae'r Bil Ardoll Ymwelwyr wedi cael y Cydsyniad Brenhinol gan Ei Fawrhydi y Brenin.
Mae'r gyfraith newydd yn rhoi'r dewis i gynghorau Cymru gyflwyno tâl bach ar arosiadau dros nos, gyda'r holl arian yn cael ei ailfuddsoddi'n lleol i gefnogi twristiaeth.
Bydd cynghorau yn penderfynu sut y gellir defnyddio'r arian a godir ar gyfer treuliau sy'n gysylltiedig â thwristiaeth - megis gwella toiledau, llwybrau troed, traethau, canolfannau ymwelwyr a gweithgareddau. Bydd Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) yn casglu ac yn rheoli'r ardoll ar gyfer cynghorau.
Mae'r gyfraith hefyd yn creu cofrestr genedlaethol ar gyfer yr holl ddarparwyr llety ymwelwyr sy'n gweithredu yng Nghymru, a fydd yn cael ei chynnal gan ACC. Bydd hyn yn darparu data gwell am dwristiaeth i helpu cynghorau, Llywodraeth Cymru a chymunedau i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth am sut y caiff eiddo ei ddefnyddio yn eu hardaloedd.
Mae cofrestru yn rhad ac am ddim ac, o hydref 2026 ymlaen, rhaid i unrhyw un sy'n codi tâl ar ymwelwyr i aros dros nos yng Nghymru gofrestru.
Fodd bynnag, y dyddiad cynharaf posibl y gallai ardoll gael ei chyflwyno gan gynghorau sy'n dewis gwneud hynny fyddai 2027.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford:
"Mae'r ardoll ymwelwyr yn gyfraniad bach a fydd yn gwneud gwahaniaeth mawr drwy helpu i gynnal a gwella'r atyniadau hynny sy'n gwneud Cymru yn lle mor wych i ymweld ag ef a byw ynddo.
"Mae'r ddeddfwriaeth hanesyddol hon yn rhoi'r un adnoddau i Gymru ag y mae cyrchfannau ledled y byd yn eu defnyddio mor llwyddiannus i gydbwyso manteision a phwysau twristiaeth rhwng ymwelwyr a thrigolion."
Dywedodd Rebecca Godfrey, prif weithredwr dros dro ACC:
"Rydym yn falch iawn o gefnogi awdurdodau lleol gyda'r gwaith o gasglu'r ardoll a gweithredu'r gofrestr llety ymwelwyr newydd.
"Mae ein hanes hir a llwyddiannus o reoli trethi datganoledig Cymru yn golygu ein bod mewn sefyllfa dda i weinyddu'r gofrestr a'r ardoll yn effeithlon. Byddwn yn gweithio gyda darparwyr a'r diwydiant i helpu pawb i baratoi ar gyfer hydref 2026."
Mae'r gyfraith newydd yn:
- Rhoi'r dewis i gynghorau gyflwyno ardoll ymwelwyr ar ôl ymgynghori â chymunedau lleol.
- Sicrhau bod arian yn cael ei gadw a'i ailfuddsoddi'n lleol i gefnogi twristiaeth.
- Gosod yr ardoll ar 75c y pen y noson ar gyfer hosteli/meysydd gwersylla a £1.30 ar gyfer mathau eraill o lety.
- Esemptio'r rhai o dan 18 oed mewn llety a rennir.