Argaeau Afancod Cymru yn amddiffyn
Wales gives beavers dam good protection
Bydd afancod Ewropeaidd yn dod yn rhywogaeth frodorol a warchodir o dan gyfraith Cymru.
Bydd Llywodraeth Cymru yn ymestyn statws Rhywogaethau a Warchodir gan Ewrop i afancod Ewropeaidd, gan ei gwneud hi'n anghyfreithlon eu niweidio neu niweidio eu cynefinoedd yn fwriadol. Mae'r newidiadau deddfwriaethol yn dod â Chymru yn gydnaws â'r drefn yn Lloegr a'r Alban wrth gydnabod afancod fel rhywogaeth frodorol sydd angen ei gwarchod.
Bydd hyn hefyd yn dangos sut y gall afancod Ewropeaidd helpu i greu amddiffynfeydd naturiol rhag llifogydd, a chreu afonydd glanach ledled Cymru. Mae tystiolaeth wyddonol ddiweddar yn dangos bod argaeau afancod yn dal gwaddodion ac yn hidlo llygryddion o ddŵr ffo amaethyddol, gan leihau nitrogen a ffosfforws niweidiol mewn dyfrffyrdd yn sylweddol. Mae'r driniaeth ddŵr naturiol hon yn cefnogi nodau'r llywodraeth ar gyfer gwell ansawdd afonydd a gwydnwch ecosystemau.
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog sydd â chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies:
"Mae ymestyn mesurau cyfreithiol i warchod afancod yn gam mawr ymlaen i fyd natur yng Nghymru. Rydym yn wynebu argyfyngau hinsawdd a natur, ac mae hynny'n golygu bod yn rhaid i ni wneud popeth yn ein gallu i helpu natur i ffynnu.
Wrth gymryd y cam hwn, rwy'n ymrwymedig i ddull cydweithredol, sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Rwy'n falch o gadarnhau y byddwn yn sefydlu Fforwm Afancod Cymru i helpu i reoli rhai o'r pryderon a godwyd, gan gynnwys rhai sy’n ymwneud ag effeithiau posibl ar rywogaethau, defnydd tir a systemau dŵr."
Dywedodd Mary Lewis, Pennaeth Polisi Rheoli Adnoddau Naturiol Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC):
"Ar un adeg roedd afancod yn rhan annatod o'n bywyd gwyllt brodorol, ac yn chwarae rhan hanfodol wrth lunio ecosystemau. Mae eu gweithgarwch mewn afonydd a gwlyptiroedd yn helpu i greu cynefinoedd cyfoethog, amrywiol sy'n cynnal ystod eang o rywogaethau. Maent hefyd yn darparu manteision amgylcheddol pwysig, megis gwella ansawdd dŵr a lleihau'r perygl o lifogydd trwy arafu llif dŵr trwy systemau afonydd.
"Gall ailgyflwyno afancod wneud ein hamgylchedd yn fwy gwydn ac yn iachach – rhywbeth sy'n fwyfwy pwysig wrth i ni wynebu pwysau cynyddol ar ein hadnoddau naturiol, ac mae rhoi mesurau cyfreithiol i warchod afancod ar waith yn gam pwysig ymlaen i wneud hyn yn llwyddiant. Edrychwn ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid i ddatblygu dull sy'n cefnogi'r gwaith o ailgyflwyno afancod i Gymru o dan reolaeth."
Bydd Fforwm Afancod Cymru yn cyfarfod am y tro cyntaf ym mis Tachwedd.
Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw'r gofyniad am drwydded ar gyfer unrhyw anifeiliaid sy'n cael eu rhyddhau i'r gwyllt a bydd yr awdurdod ganddynt i gyhoeddi trwyddedau rheoli lle bo angen.