English icon English
CyberAware-2

Aros gartref. Aros mewn cysylltiad. Aros yn seiber-effro

Stay home. Stay connected. Stay Cyber Aware

Gyda rhagor ohonom yn gweithio ac yn cymdeithasu ar-lein yn ystod argyfwng y coronafeirws, rydym yn gweld cynnydd na welwyd mo’i debyg yn nifer y sgiamiau e-bost a seiberdroseddu ledled y wlad.

Mae’r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol eisoes wedi mynd i’r afael â dros 2,000 o sgiamiau ar-lein. Mae’r sgiamiau hynny’n amrywio o wefannau sy’n honni eu bod yn gwmnïau dilys ac yn gofyn am wybodaeth bersonol, fel cyfrineiriau neu fanylion cardiau credyd, i siopau ar-lein ffug sy’n gwerthu eitemau twyllodrus sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws.

Er mwyn ceisio mynd i’r afael â’r nifer cynyddol o sgiamiau yng Nghymru, mae Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid, yn annog pawb i ddefnyddio’r gwasanaeth cenedlaethol newydd i adrodd am negeseuon e-bost amheus a dilyn cyngor ac arweiniad y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol.

Mae’r gwasanaeth adrodd [report@phishing.gov.uk], a lansiwyd yn gynharach yr wythnos hon, yn ei gwneud yn haws i bobl anfon unrhyw negeseuon e-bost amheus y maent yn eu cael ymlaen i’r Gwasanaeth Seiberddiogelwch Genedlaethol. Mae hynny’n cynnwys unrhyw negeseuon sy’n honni eu bod yn cynnig gwasanaethau yn ymwneud â’r coronaferiws. Bydd modd ymchwilio i’r negeseuon hynny wedyn a chymryd camau priodol. Ochr yn ochr â’r gwasanaeth newydd hwn, cyhoeddwyd cyngor ar sut i gadw eich cyfrineiriau, eich cyfrifon a’ch dyfeisiau yn ddiogel yn ogystal â chanllawiau newydd ar sut i ddefnyddio gwasanaethau fideogynadledda yn ddiogel.

Dywedodd Rebecca Evans:

“Mae technoleg yn chwarae rhan hanfodol wrth ddod ag unigolion at ei gilydd ac wrth gynnig gwasanaethau ar-lein sy’n helpu pobl i wneud gweithgareddau bob dydd. Ond mae perygl posibl hefyd o gael niwed ar-lein.

“Mae seiberddiogelwch yn bwysicach nag erioed wrth inni fanteisio ar wasanaethau digidol. Drwy ddilyn camau syml y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol ac adrodd am unrhyw weithgarwch amheus, gall pob un ohonom helpu i leihau nifer y sgiamiau e-bost a seiberdroseddu a diogelu ein hunain, ein teuluoedd a busnesau.”

Mae’r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol yn awgrymu chwe cham i ddiogelu eich data a’ch dyfeisiau:

  1. Creu cyfrinair gwahanol ar gyfer eich cyfrif e-bost
  2. Creu cyfrinair cryf gan ddefnyddio tri gair ar hap
  3. Cadw eich cyfrineiriau yn eich porwr
  4. Defnyddio system ddilysu dau ffactor gyda chyfrifon pwysig
  5. Diweddaru eich dyfeisiau yn rheolaidd (eu gosod i ddiweddaru’n awtomatig yn ddelfrydol)
  6. Cadw copi wrth gefn o ddata pwysig

Cofiwch: Aros gartref. Aros mewn cysylltiad. Aros yn seiber-effro.

Nodiadau i olygyddion

Mae’r wefan Cyber Aware yn cynnwys canllawiau a chyngor ar sut i gadw’n ddiogel ar-lein yn ystod argyfwng y coronafeirws.

Mae gwefan y Gwasanaeth Seiberddiogelwch Genedlaethol yn cynnwys gwybodaeth ynglŷn â sut i adrodd am negeseuon gwe-rwydo posibl drwy ddefnyddio’r gwasanaeth newydd i adrodd am negeseuon e-bost amheus (SERS).