English icon English

Athrawes o Gaerdydd yn trefnu i gynhyrchu miloedd o sgrybs hanfodol i’n gweithwyr arwrol sy’n darparu gofal iechyd

Cardiff teacher organising production of thousands of vital scrubs for healthcare heroes

Mae athrawes tecstiliau o Gaerdydd yn defnyddio ei harbenigedd yn ystod cyfyngiadau symud y coronafeirws drwy helpu i gydlynnu proses i gael gwirfoddolwyr i greu miloedd o sbrybs meddygol y mae angen mawr amdanynt ar gyfer arwyr gofal iechyd Cymru y GIG.

Mae Nia Clements, sy’n bennaeth dylunio a thechnoleg yn Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr, yn y Tyllgoed, Caerdydd, wedi helpu i sefydlu canolfan gynhyrchu trwy gymunedau yn Ne a Gorllewin Cymru, gyda chymorth Llywodraeth Cymru.

Mae cyfanswm o bron i 100 o wirfoddolwyr yn rhoi eu hamser a’u hegni i gynorthwyo’r ymdrech genedlaethol yn erbyn y coronafeirws trwy ddefnyddio defnydd a gafwyd trwy Lywodraeth Cymru gan gyflenwyr y DU ar ran Alexandra, cwmni o’r DU sy’n darparu sgrwbs i’r GIG.

Meddai Ms Clements:

“Dwi wedi bod yn athrawes tecstiliau yng Nghymru am 33 mlynedd a teimlais y dyliwn ddefnyddio fy sgiliau trefnu a gwnïo tra bo’r ysgol ar gau.

“Roeddwn wedi cysylltu â Llywodraeth Cymru wedi sgwrsio gyda’m merch, gweithiwr ffisioleg anadlol mewn ysbyty yn Nottingham. Dywedodd ei bod yn ei chael yn anodd iawn dod o hyd i Gyfarpar Diogelu Personol, yn enwedig wrth weithio yn ystod y nos, ac roeddwn yn meddwl tybed a oedd problem debyg yma yng Nghymru.

“Yn ddiweddarach, gofynnais i wirfoddolwyr ar y cyfryngau cymdeithasol, ac wedi derbyn nifer fawr o gynigion i helpu, sefydlwyd 11 canolfan i wnïo tiwnics ar gyfer y sbrybs.

“Dwi wedi fy synnu gan garedigrwydd pobl i gydweithio a helpu’r GIG yng Nghymru.

“Mae wedi bod yn dasg enfawr inni i gyd, gydag arweiniad a chefnogaeth gwerthfawr iawn gan gwmni dillad gwaith Alexandra a Llywodraeth Cymru.”

Mae Llywodraeth Cymru wedi helpu i gydlynnu’r broses gynhyrchu ymhlith gwirfoddolwyr, a hefyd wedi darparu edafedd, labeli gofal a maint, a’r pecynnu ar gyfer eu dosbarthu.

I gefnogi’r ymdrech ymhellach, bydd Llywodraeth Cymru yn trefnu i’r dillad gorffenedig gael eu danfon i’r ysbytai yn uniongyrchol.

Meddai Mark Drakeford y Prif Weinidog:

“Mae’r ymateb i’r ymgyrch genedlaethol yn erbyn y feirws marwol hwn wedi bod yn ysbrydoledig tu hwnt.

"Ers ein galwad i gwmnïau o Gymru am help i wneud Cyfarpar Diogelu Personol, rydyn ni wedi bod yn hunangynhaliol am y tro cyntaf erioed o ran cynhyrchu sgrybs yng Nghymru.

“Mae’r ffaith bod cynifer o wirfoddolwyr yn chwarae eu rhan yn hyn yn dweud y cyfan am y bobl yma yng Nghymru, a pa mor ddiolchgar ydynt i’n harwyr gofal iechyd sy’n darparu gofal o safon uchel ar y rheng flaen.

“Dwi yn hynod falch o Nia a’r gwirfoddolwyr ac yn cael fy nghalonogi gan y ffaith y bydd eu hysbryd cymunedol yn parhau am gyfnod maith wedi inni drechu y coronafeirws.”