Bil diogelwch tomenni glo nas defnyddir yng Nghymru yn dod yn gyfraith yn seremoni y Big Pit
Wales’s disused coal tip safety Bill becomes law at Big Pit ceremony
Mae deddfwriaeth nodedig i fynd i'r afael â'r materion diogelwch a achosir gan orffennol mwyngloddio Cymru wedi derbyn Cydsyniad Brenhinol heddiw, gan ddod yn gyfraith.
Cafodd y Bil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru) ei selio yn swyddogol gan y Prif Weinidog Eluned Morgan mewn seremoni yn Big Pit Blaenafon heddiw (dydd Iau, 11 Medi).
Ym mis Gorffennaf 2025, pasiodd y Senedd Fil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru) Llywodraeth Cymru.
Bydd y gyfraith fodern yma'n sicrhau bod hen domenni glo yn cael eu rheoli yn effeithiol yn y tymor hir, ac yn lleihau'r risg i'r cyhoedd.
Daw Cydsyniad Brenhinol y Bil yn dilyn cyllid sylweddol a ddarparwyd gan lywodraethau Cymru a'r DU.
Yn ddiweddar, cytunodd Llywodraeth y DU i ddarparu cyllid uwch nag erioed o £118 miliwn dros dair blynedd. O'i gyfuno â buddsoddiad o fwy na £100 miliwn gan Lywodraeth Cymru, mae'n golygu bod mwy na £220 miliwn wedi'i fuddsoddi mewn diogelwch tomenni glo hyd yn hyn.
Dywedodd y Prif Weinidog, Eluned Morgan:
"Rydyn ni'n gwario miliynau o bunnoedd ar ddiogelwch tomenni glo i gefnogi ein cymunedau sy'n byw yng nghysgod ein gorffennol mwyngloddio.
"Rydyn ni wedi newid y gyfraith, ac rydyn ni'n mynd hyd yn oed ymhellach trwy sefydlu sefydliad newydd i barhau â'r gwaith diogelwch pwysig hwn ar gyfer cenedlaethau i ddod.
"Mae'r buddsoddiad hwn yn dod â thwf economaidd a chyfleoedd am gyflogaeth i rai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru, gan ddefnyddio tir unwaith eto ac annog buddsoddiad mewn technolegau newydd.
"Edrychaf ymlaen at weithio gyda Llywodraeth y DU i gynnal momentwm yn y maes pwysig hwn a pharhau i ddarparu ffyniant i bobl Cymru."
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog sydd â chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd, Huw Irranca-Davies:
"Mae ein hinsawdd, ein gorffennol diwydiannol a'n tirwedd sy'n newid yn golygu bod yn rhaid i ni weithredu i gadw cymunedau Cymru yn ddiogel rhag tomenni glo segur.
"Rydym eisoes yn monitro ac yn arolygu tomenni, yn rhannu gwybodaeth, ac yn gweithio gyda phartneriaid i amddiffyn cymunedau.
"Mae'r cyllid ychwanegol diweddar o £118 miliwn ar gyfer diogelwch tomenni glo gan Lywodraeth y DU yn cydnabod y cyfrifoldeb ar y cyd i fynd i'r afael ag etifeddiaeth mwyngloddio glo yng Nghymru, gan adeiladu ar y gwaith yr ydym ni yn Llywodraeth Cymru yn ei wneud.
"Mae cyfuno adnoddau Llywodraeth Cymru a'r DU yn effeithiol yn ein helpu i sicrhau bod cymunedau'n cael eu hamddiffyn rhag yr etifeddiaeth hon cyn datganoli."
Bydd y Bil yn sefydlu corff cyhoeddus newydd, Awdurdod Tomenni nas Defnyddir Cymru, a fydd â swyddogaethau mewn perthynas ag asesu, cofrestru, monitro a rheoli tomenni nas defnyddir. Bydd yr Awdurdod newydd yma'n cael ei sefydlu ym mis Ebrill dwy fil a dau ddeg saith (2027).
Bydd hwn yn Awdurdod ymroddedig; corff arbenigol un pwrpas sy'n canolbwyntio ar sicrhau bod cymunedau Cymreig sy'n byw yng nghysgod tomenni glo nas defnyddir yn ddiogel.
Bydd cyfrifoldebau'r Awdurdod yn cael eu hymgorffori yn y gyfraith a byddant yn ffurfioli'r gwaith presennol a wneir gan yr Awdurdod Adfer Mwyngloddio, gan baratoi'r ffordd fel rhan o ymrwymiad cenhedlaeth i ddiogelwch tomenni.
"Yn y cyfamser, mae rhaglen waith diogelwch tomenni glo Llywodraeth Cymru yn mynd rhagddi ac yn parhau i gydweithio ag awdurdodau lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru a'r Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio i drefnu prosesau archwilio a threfn gwaith cynnal a chadw effeithiol ledled Cymru."