English icon English

Bron i £10m ar gyfer helpu i wella ansawdd dŵr yng Nghymru

Nearly £10m to help improve water quality in Wales

Caiff bron i £10m o gyllid cyfalaf ei ddefnyddio yn 2020-21 er mwyn gwella ansawdd dŵr ar draws Cymru a hefyd er mwyn mynd i’r afael â llygredd dŵr o fwyngloddiau metel segur.

Caiff dros £5m ei ddyrannu i gyfres o brosiectau, lle y bydd sefydliadau partner yn cydweithio er mwyn gwella ansawdd dŵr ar draws Cymru, gan gynnwys:

Cynllun Gweithredu Adfer Natur (£1.115m) –Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cydweithio â phartneriaid gan gynnwys Afonydd Cymru ar fesurau ar gyfer eog a brithyll yn nyfrffyrdd Cymru er mwyn adfer cynefinoedd pysgod a gwella dosbarthiad bridio;

Cynllun Datblygu Gwledig, Cynllun Grantiau Bach Glastir (£1.5m) – cyllid cyfatebol ar gyfer grant penodol a fydd yn canolbwyntio ar wella ansawdd dŵr;

Rhaglen Genedlaethol ar gyfer Rheoli Llifogydd (£1m) – yn cyfrannu at gynllun penodedig ar lefel dalgylchoedd ynghyd â mesurau gwella ansawdd dŵr, er mwyn lleihau perygl llifogydd a gwella ansawdd dŵr;

Prosiectau Gwella Ansawdd Dŵr Cyfoeth Naturiol Cymru (£802,000) - Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cydweithio â phartneriaid ar 15 o brosiectau ar raddfa lai ar gyfer mynd i’r afael ag ardaloedd lle y ceir lefelau uwch o lygryddion, fel Ffosffad a gwella bioamrywiaeth forol;

Prosiectau Ymchwil a Datblygu (£1m) – bydd y prosiect yn datblygu atebion effeithiol a blaengar ar gyfer lleihau effaith hirdymor dŵr sy’n cael ei ryddhau o fwyngloddiau metel, gwella statws ecolegol afonydd Cymru a chefnogi diwydiant ffermio iach. Mae hyn yn cynnwys prosiectau blaengar fel Canolfan Ffermio Cynaliadwy Campws Gelli Aur Coleg Sir Gâr.

 

Nod Canolfan Ffermio Cynaliadwy Gelli Aur yw datblygu’n ganolfan wybodaeth ar gyfer y gymuned ffermio, gan ddatblygu systemau amgen ar gyfer rheoli dŵr a slyri sy’n addas i’w defnyddio ar ffermydd. Caiff y prosiect hwn ei arwain gan Goleg Sir Gâr mewn partneriaeth â Cyfoeth Naturiol Cymru, Dŵr Cymru, AHDB, Cyswllt Ffermio ac undebau’r ffermwyr.

Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd yn derbyn £4.5m ar gyfer rhaglen adfer mwyngloddiau metel, gan ganolbwyntio ar y mwyngloddiau segur sy’n llygru mwyaf er mwyn mynd i’r afael â phroblemau llygredd dŵr.

Mwyngloddiau Metel Segur yw un o brif achosion methiannau o safbwynt safonau dŵr yng Nghymru. Mae dŵr sy’n cael ei ryddhau o weithiau dan ddaear a metalau sy’n trwytholchi o domeni rwbel yn creu llygredd dŵr sylweddol heddiw, gan achosi methiannau o ran haearn, sinc, plwm a chadmiwm.

Mae dros 1,300 o fwyngloddiau metel segur yng Nghymru ac amcangyfrifir eu bod yn effeithio ar dros 600km o afonydd.

Cafodd y cyllid ei gymeradwyo fel rhan o Gyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21.

Dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths: “Rydym yn benderfynol o wella ansawdd ein dŵr ar draws Cymru a mynd i’r afael â phroblem ddifrifol llygredd yn ein dyfrffyrdd, ac yn benodol o fwyngloddiau metel segur. Bydd y pecyn sylweddol hwn o gyllid yn ei gwneud hi’n bosibl i nifer o brosiectau blaengar ddigwydd.

“Trwy gydweithio â sefydliadau partner a’r sector ffermio gallwn wneud gwahaniaeth mawr i’n dyfrffyrdd a’n hecosystemau heddiw a hefyd wrth i ni anelu at adferiad mwy gwyrdd ar ôl COVID-19.”

Dywedodd Ceri Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol ar gyfer Tystiolaeth, Cynllunio a Thrwyddedu:“Mae ein hafonydd, llynnoedd a ffrydiau oll yn rhannau annatod o dirwedd Cymru. Maent yn darparu adnoddau allweddol ar ein cyfer gan gynnwys dŵr yfed, cynefin ar gyfer bywyd gwyllt a chyflenwad o ddŵr ar gyfer busnesau a chyfleoedd hamdden.”