English icon English
Community Facilities - Llansaint Welfare Hall-2

Bron i £2m o gyllid Llywodraeth Cymru yn rhoi ail wynt i leoedd cymunedol

Nearly £2m Welsh Government funding brings new life to community spaces

Heddiw, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, Jane Hutt, bod £1,946,849 yn cael ei roi i wella cyfleusterau cymunedol ledled Cymru drwy’r Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol.

Mae’r rhaglen hon, sy’n cyllido prosiectau hyd at uchafswm o £250,000, neu hyd at £25,000 ar gyfer grantiau llai, yn helpu cyfleusterau cymunedol sy’n cael cryn ddefnydd i fod yn fwy cynaliadwy yn ariannol/amgylcheddol, gan roi cyfleoedd i drigolion lleol wella’u bywydau o ddydd i ddydd.

Ers dechrau’r Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol yn 2015, mae Llywodraeth Cymru wedi cyllido 222 o grantiau drwy Gymru, sy’n gyfanswm o £35.4 miliwn. Mae pob prosiect yn cynrychioli cyfleuster cymunedol sy’n cael cryn ddefnydd ac sy’n dod â phobl ynghyd. Mae rhai o’r cyfleusterau hyn yn eiddo i’r gymuned hefyd.

Dyma rai o’r prosiectau sydd wedi cael arian yn y rownd ddiweddaraf:

  • Pafiliwn Criced Cymuned Glynebwy, Blaenau Gwent - £204,000 tuag at y gost lawn o wella’r ardal newid, y cyfleusterau ar gyfer pobl anabl ac atgyweirio’r to.
  • Clwb Bechgyn a Merched Penydarren, Merthyr Tudful - £250,000 tuag at y gost o ailosod arwyneb chwarae artiffisial 3G yn lle’r maes chwarae glaswellt, llifoleuadau ac ystafelloedd newid ychwanegol.
  • Clwb y Bont, Rhondda Cynon Taf - £101,000 tuag at y gost o ailadeiladu’r clwb yn sgil y llifogydd yn yr ardal yn 2020.
  • Advanced Brighter Future, Wrecsam - £145,818 tuag at y gost o ehangu a gwella’r adeilad presennol, gan ddarparu ystafelloedd un i un ychwanegol, a thoiled hygyrch, gosod larwm tân gwell sydd wedi cael ardystiad lefel 4 a chreu maes parcio i ymwelwyr.
  • Agape – Neuadd Gymunedol Ty-Sign, Caerffili - £250,000 tuag at y gost o adeiladu neuadd gymunedol newydd yng nghanol stad Ty-Sign, yn rhoi gwell mynediad at wasanaethau i’r gymuned gyfan.
  • Ieuenctid Tysul Youth, Ceredigion - £7,500 tuag at y gost o ailwampio’r gegin yn y ganolfan ieuenctid er mwyn bodloni safonau hylendid bwyd.
  • Y Tŷ Gwyrdd Cyf, Sir Ddinbych - £17,702 tuag at y gost o greu hwb cymunedol
  • View (Glyn-nedd) Cyf, Castell-nedd Port Talbot - £23,888 tuag at y gost o greu ardal chwarae tu allan/tu mewn i blant.
  • Hafod Ceiri, Gwynedd - £25,000 tuag at y gost o adnewyddu ac ehangu adeilad rhestredig Gradd 2, sy’n gapel, i gynnwys canolfan dreftadaeth, gweithdai menter a busnes, oriel, caffi ac ardal aml-ddefnydd a fydd hefyd yn lle i addoli. 
  • Eglwys Sant Mihangel a’r Holl Angylion, Sir Fynwy - £25,000 i osod toiledau anabl a chegin, i ddarparu cadeiriau symudol newydd i wneud yr ardal yn ardal gymunedol hyblyg ac i atgyweirio lloriau sydd wedi’u difrodi.
  • Neuadd Les Llansaint, Sir Gaerfyrddin - £35,000 ychwanegol i estyn ac ailwampio’r neuadd. Bydd y costau ychwanegol yn codi oherwydd bod prisiau wedi cynyddu’n annisgwyl yn sgil pandemig Covid-19.

Dywedodd Jane Hutt:

“Mae pandemig Covid-19 wedi tynnu sylw at rai heriau penodol o fewn ein cymunedau, heriau megis iechyd meddwl a lles cymdeithasol. Mae ymrwymiad ar y cyd yn atgyfnerthu cymunedau hyfyw, sy’n gofalu am bobl, lle mae’r trigolion wedi eu clymu gan ysbryd o gydweithio a chyd-dynnu, lle mae’r anghydraddoldeb yn lleihau a’r rhai mwyaf agored i niwed yn ein plith yn teimo’u bod yn cael cefnogaeth.

“Mae Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru yn cefnogi rhai prosiectau ffantastig yn y gymuned, ac yn rhoi help iddynt ddatblygu a thyfu er mwyn bodloni anghenion penodol eu hardaloedd.

“Mae cynnig grantiau fel hyn i brosiectau sy’n cael eu harwain gan y gymuned yn helpu i wella cyfleusterau y mae angen mawr amdanynt, sy’n rhan bwysig o fywydau pobl ledled Cymru. Hoffwn ddiolch i sefydliadau’r trydydd sector a’r gwirfoddolwyr sy’n gweithio’n hynod galed yn eu cymunedau i gynnig help a chymorth hanfodol, a hynny lle mae’r angen mwyaf amdano – mae’ch ymdrech yn ysbrydoliaeth.”

Dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid:

“Mae cyfleusterau cymunedol yn rhoi mynediad lleol i ystod eang o wasanaethau pwysig, megis gweithgareddau iechyd a lles, ac maent wedi bod yn ganolbwynt i weithgareddau drwy gydol y pandemig. Bydd yr arian newydd yn gymorth i’r asedau amhrisiadwy hyn barhau i ffynnu a thyfu, yn awr ac yn y dyfodol.”