Buddsoddi £16m mewn cronfa i gyflymu’r broses o gael gafael ar feddyginiaethau sy'n achub bywydau
£16m invested in fund which speeds up access to life saving medicines
Heddiw, cadarnhaodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething, y byddai’n rhoi £16m yn rhagor i ymestyn cynllun i gyflymu’r broses o gael gafael ar feddyginiaethau newydd yng Nghymru.
Ers iddi gael ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru yn 2017, mae’r Gronfa Triniaethau Newydd wedi cyflymu mynediad at dros 265 o feddyginiaethau i drin mwy na 100 o gyflyrau iechyd.
Mae wedi lleihau’r amser y mae’n ei gymryd ar gyfartaledd i feddyginiaethau, sydd newydd eu hargymell, ddod ar gael i gleifion, gan ei leihau 85%, o 90 i 13 o ddiwrnodau.
Mae’r Gronfa wedi cyflymu’r broses o gael mynediad at feddyginiaethau a argymhellir gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) a Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru (AWMSG). Bydd yr arian a gyhoeddir heddiw yn sicrhau bod y Gronfa’n parhau tan fis Ebrill 2022.
Mae triniaethau ar gyfer cyflyrau iechyd, gan gynnwys canser, HIV, sglerosis ymledol a ffeibrosis systig, i gyd wedi dod ar gael i gleifion yn llawer cynt, diolch i’r gronfa o £80m. Yn ogystal â chost y meddyginiaethau, mae’r Gronfa Triniaethau Newydd yn talu am gostau’r cyfarpar y mae ei angen i weini’r feddyginiaeth, a’r gost o gynnal clinigau ychwanegol i drin a monitro’r claf.
Mae meddyginiaethau, gan gynnwys Sarilumab a Tocilizumab, sydd wedi dod ar gael drwy’r Gronfa Triniaethau Newydd i drin arthritis ac arthritis gwynegol, bellach hefyd ar gael yn ddi-oed i’r GIG eu defnyddio i helpu i reoli COVID-19.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething: “Ers inni sefydlu’r Gronfa Triniaethau Newydd, mae wedi helpu i ymestyn a gwella bywydau miloedd o bobl ledled Cymru. Mae cleifion a’u teuluoedd yn elwa ar y ffaith bod mynediad gwell at feddyginiaethau sy’n gallu newid ac achub bywydau. Mae’n bleser gennyf gadarnhau y bydd y Gronfa’n cael ei hymestyn, gan adlewyrchu ein hymrwymiad i sicrhau bod pobl yn gallu cael gafael yn gyflym ar y triniaethau diweddaraf sydd wedi eu hargymell, waeth ble yng Nghymru maen nhw’n byw.”