Buddsoddi £35 miliwn yng nghartrefi Cymru ar gyfer y dyfodol
£35 million investment in Welsh homes for the future
Bydd tai carbon isel, ôl-osod elfennau i wella effeithlonrwydd ynni, a chyfleoedd hyfforddi i garcharorion yn rhai o nodweddion prosiectau a fydd yn cael cyllid i greu cartrefi fforddiadwy ar gyfer y dyfodol.
Mae cyllid Rhaglen Tai Arloesol Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar ddulliau adeiladu modern eleni, yn benodol defnyddio coed a chadwyni cyflenwi o Gymru i gefnogi ein hadferiad gwyrdd a symud tuag at economi carbon isel.
Dywedodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James:
“Bydd y buddsoddiad hwn o £35 miliwn yn darparu 400 o gartrefi ffatri, a phob un wedi’i greu gan gwmnïau lleol Cymreig a’u cadwyni cyflenwi nhw.
“Rydyn ni wedi ymrwymo i adeiladu mwy o gartrefi o ansawdd mewn ffatrïoedd yma yng Nghymru. Yn Llanbedr Dyffryn Clwyd, mae Cymdeithas Dai ClwydAlyn wedi dangos yr hyn y gallwn ei gyflawni gyda’n gilydd. Gan weithio gyda chyflenwyr lleol, maen nhw wedi codi 38 o gartrefi carbon isel, ffrâm bren sydd â chostau rhedeg hynod isel, a fydd yn rhoi mwy o arian ym mhocedi’r tenantiaid.
“Drwy bartneriaeth gyda Williams Homes, cwmni yn y Bala, roedd modd cynhyrchu’r fframiau i gyd yn lleol. Creodd hyn chwe chyfle hyfforddi, gan helpu busnesau Cymru sy’n defnyddio dulliau adeiladu modern i dyfu. Rwy’n falch o weld bod yna bobl wedi dechrau symud i mewn i’r cartrefi gwych hyn a’u bod yn cael gweld eu manteision.”
Ymhlith y prosiectau sydd wedi cael cymorth drwy gylch cyllid eleni mae’r canlynol:
- Mae ClwydAlyn yn defnyddio cwmni dulliau adeiladu modern o Gymru i godi 63 o gartrefi ffrâm bren i fod yn ddi-garbon am oes. Bydd y cwmni yn cynnig cyfleoedd hyfforddiant am grwpiau sy’n cael trafferth sicrhau cyfleoedd cyflogaeth;
- £3 miliwn i Grŵp Pobl i adeiladu dros 90 o gartrefi cymdeithasol di-garbon ym Mlaenau Gwent, gan gynhyrchydd sy’n defnyddio dulliau adeiladu modern yn y Cymoedd, a chan ddefnyddio cynllun ffrâm bren;
- Bydd Tai Tarian yn adeiladu 55 o gartrefi newydd ac yn ôl-osod elfennau mewn 72 o gartrefi sydd eisoes yn bodoli ym Mhort Talbot, gan gynyddu effeithiolrwydd ynni a lleihau’r biliau tanwydd i’r tenantiaid. Caiff y cartrefi newydd eu hadeiladu yng Nghastell-nedd Port Talbot gan gwmni partner sy’n defnyddio dulliau adeiladu modern ac sy’n cael ei redeg gan deulu lleol.
Wrth siarad am y prosiect, dywedodd Craig Sparrow, Cyfarwyddwr Datblygu Gweithredol ClwydAlyn:
“Rydym yn awyddus i gynnwys y gymuned leol yn ein cynlluniau i adeiladu tai newydd ac arloesol bob amser, ond drwy gydweithio mewn partneriaeth â’n cynllunwyr, ein contractwyr a Llywodraeth Cymru, roedd modd inni gael cefnogaeth unfrydol Aelodau lleol a swyddogion cynllunio’r Cyngor i’r cynllun arloesol newydd, gan ein galluogi i sicrhau llawer o fanteision i’r gymuned.
“Mae Rhaglen Tai Arloesol Llywodraeth Cymru wedi bod yn hollbwysig wrth gyflwyno prosiect sydd wedi ymestyn y ffiniau drwy gofleidio technoleg newydd a dulliau adeiladu modern er mwyn codi cartrefi carbon isel dros ben, o ansawdd uchel. Mae prosiectau fel hyn yn chwarae rôl bwysig wrth geisio lleihau tlodi tanwydd, gan aildanio cyfleoedd gwaith i gefnogi’r economi leol ar yr un pryd. Mae’r ddwy elfen yn ein helpu i gyflawni ein nod o drechu tlodi.”
Dywedodd Julie James:
“Mae’r Rhaglen Tai Arloesol yn dangos yr hyn y gallwn ei gyflawni gyda’n gilydd; mae cynhyrchu cartrefi mewn ffatrïoedd yn golygu y gallwn barhau i adeiladu cartrefi fforddiadwy, heb i’r tywydd na phandemig effeithio arnom. Rydym yn ailgodi’n wyrddach, gan ddarparu cyflenwad sefydlog o gartrefi mewn cyfnod economaidd ansefydlog.”