English icon English

Buddsoddi £9m mewn Academïau Dysgu Dwys i hyrwyddo arloesi ym maes iechyd a gofal cymdeithasol

£9m invested into innovative health and social care Intensive Learning Academies.

Heddiw, cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething, ei fod yn neilltuo dros £9m ar gyfer creu academïau newydd i gefnogi’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr yn sector iechyd a gofal Cymru.

Mae pob academi wedi cael ei datblygu mewn partneriaeth â chonsortia sy’n cael eu harwain gan Brifysgolion yng Nghymru, a fydd yn darparu arian cyfatebol i gyd-fynd â chyllid Llywodraeth Cymru. Y tair academi hyn fydd y cyntaf o’u bath, a dyma nhw:

  • Yr ‘Academi Iechyd a Gofal sy’n Seiliedig ar Werth’ sy’n cael ei harwain gan Brifysgol Abertawe;
  • ALPHAcademy’ Prifysgol Bangor a fydd yn canolbwyntio ar waith sy’n ymwneud ag atal ar draws y maes iechyd a gofal cymdeithasol
  • ‘Academi Arloesi Cymru Gyfan mewn Rheoli Iechyd a Gofal Cymdeithasol’, a fydd yn cael ei darparu gan bartneriaeth sy’n cynnwys Prifysgol Abertawe, Prifysgol Caerdydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, a Chomisiwn Bevan.

Mae’r Academïau Dysgu Dwys newydd yn cefnogi Cymru Iachach, sef cynllun tymor hir Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gofal. Bydd pob academi yn canolbwyntio ar faes arbenigol, gan dargedu themâu sy’n gysylltiedig â thrawsnewid a datblygu rolau rheoli ac arweinyddiaeth. Byddant yn darparu amrywiaeth o fodiwlau a chyrsiau addysg i weithredwyr, a fydd yn canolbwyntio ar sgiliau ymarferol.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething:

“Nid yw trawsnewid a ffyrdd newydd o weithio erioed wedi bod mor bwysig nag y maen nhw yn sgil y pandemig COVID-19. Rydyn ni eisoes wedi gweld ein GIG a’n gwasanaethau gofal cymdeithasol ar eu gorau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf wrth iddyn nhw i ymateb i’r feirws drwy weithio’n ddiflino i addasu ac i arloesi drwy gydol cyfnod. Rydyn ni’n awyddus i weld y momentwm hwn yn parhau, drwy fod yr academïau hyn yn edrych ar ffyrdd newydd o wella profiad a chanlyniadau i’r claf, ac ar yr un pryd sicrhau bod mwy o arloesedd a chynaliadwyedd yn ein gwasanaethau iechyd a gofal.”

 

Nodiadau i olygyddion