English icon English

Buddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus a thwf economaidd ar frig agenda Ysgrifennydd Cyllid Cymru wrth gwrdd â gwledydd y DU

Investment in public services and economic growth top of Welsh Finance Secretary’s agenda at meeting with UK nations

Mae'r Ysgrifennydd Cyllid Mark Drakeford wedi croesawu'r cyfle i gydweithio â holl wledydd y DU i sicrhau economi gryfach i Gymru cyn cyfarfod gyda'i gymheiriaid heddiw (dydd Iau, 3 Hydref).

Bydd y Gweinidogion Cyllid o bob un o bedair gwlad y DU yn cwrdd yn Belfast ar gyfer y  Pwyllgor Sefydlog Rhyng-Weinidogol ar Gyllid (F:ISC), sy'n ystyried materion cyllidol ac economaidd sy'n effeithio ar y DU.

Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn amlinellu ei flaenoriaethau ar gyfer Cymru cyn Cyllideb y DU ac Adolygiad o Wariant y DU, sy'n cynnwys gyrru twf, adnewyddu gwasanaethau cyhoeddus a symud i sero net.

Wrth siarad cyn y cyfarfod, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg Mark Drakeford:

"Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gorfod gwneud dewisiadau anodd iawn wrth inni ddatblygu ein cynlluniau gwariant. Gan fod y rhagolygon ariannol yn parhau i fod yn heriol iawn, rwy'n awyddus i Lywodraeth Cymru weithio'n agos gyda llywodraethau ledled y DU i greu cymdeithas decach a dyfodol mwy llewyrchus i Gymru.

"Yn y cyfarfod, byddaf yn amlinellu pwysigrwydd hyblygrwydd cyllidebol priodol i Gymru ac yn tynnu sylw at yr angen i benderfyniadau ynghylch cronfeydd sy'n disodli cronfeydd yr UE gael eu dychwelyd i Gymru ar ôl i'r Gronfa Ffyniant Gyffredin, a oedd wedi'i gohirio ac a oedd yn aml yn anhrefnus, ddirwyn i ben. Sefydlwyd y gronfa honno gan Lywodraeth flaenorol y DU."

Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cynnal trafodaethau dwyochrog gyda Phrif Ysgrifennydd newydd y Trysorlys Darren Jones, fel rhan o'r ymgais i ailosod y berthynas rhwng Cymru a San Steffan.

Bydd yn pwysleisio pwysigrwydd dull teg o gymhwyso fformiwla Barnett mewn perthynas â chyllido'r rheilffyrdd ac yn tynnu sylw at gyfleoedd i gefnogi economi Cymru a'r newid i sero net drwy fuddsoddi mewn porthladdoedd ledled Cymru ac mewn prosiectau niwclear.

Ychwanegodd Ysgrifennydd y Cabinet: 

"Mae cau ffwrnais chwyth olaf Tata ym Mhort Talbot yr wythnos hon yn pwysleisio'r angen i roi cymorth tymor hwy ar waith i liniaru effaith y newid ar yr economi leol. Byddem hefyd yn croesawu ymrwymiad cynnar i gefnogi buddsoddiad mewn ymchwil a datblygu yng Nghymru.

"Er bod gan y Canghellor rai penderfyniadau anodd i'w gwneud cyn Cyllideb y DU ddiwedd y mis hwn, rwy'n hyderus y bydd yn gosod cynlluniau cyllidol yn y dyfodol a fydd yn darparu'r buddsoddiad y mae wir ei angen ar ein gwasanaethau cyhoeddus."