English icon English
AberInnovation Jeremy Miles

Buddsoddiad gwerth £2.6m gan yr UE yn denu swyddi a busnesau i Gymoedd y Rhondda

£2.6m EU investment to bring jobs and businesses to the Rhondda Valleys

Mae'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit Jeremy Miles, sy'n gyfrifol am gyllid yr UE yng Nghymru, wedi cyhoeddi heddiw gyllid gwerth £2.58 miliwn gan yr UE ar gyfer datblygu safleoedd busnes newydd ger Llantrisant yn Rhondda Cynon Taf.

Newyddion Llywodraeth Cymru
Dydd Iau, 10 Hydref

Buddsoddiad gwerth £2.6m gan yr UE yn denu swyddi a busnesau i Gymoedd y Rhondda


Mae'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit Jeremy Miles, sy'n gyfrifol am gyllid yr UE yng Nghymru, wedi cyhoeddi heddiw gyllid gwerth £2.58 miliwn gan yr UE ar gyfer datblygu safleoedd busnes newydd ger Llantrisant yn Rhondda Cynon Taf.


Dywedodd Mr Miles: "Bydd datblygiad busnes Coed Ely mewn safle allweddol ar y ffordd i mewn i Gymoedd y Rhondda a bydd yn gwasanaethu'r economi ranbarthol drwy gynnig unedau diwydiannol modern ar gyfer busnesau newydd a busnesau presennol a sbarduno twf yn yr ardal allweddol o fewn Rhondda Cynon Taf.


"Bydd y prosiect newydd a chyffrous hwn yn ymateb i effaith colli safle cyflogaeth mawr yn yr ardal. Bydd yn denu buddsoddiadau diwydiannol ysgafn newydd i Gymoedd y Rhondda, gan greu cyfleusterau y mae galw mawr amdanynt mewn lleoliad gwych a fydd yn annog BBaCh lleol i ehangu a gwella eu cynhyrchiant. Bydd hefyd yn creu swyddi newydd a diogel ar gyfer yr hirdymor, gan roi opsiynau i drigolion lleol a'r cyfle iddynt roi'r gorau i ddibynnu ar fudd-daliadau gan ymuno â'r farchnad lafur.


"Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod Cymru'n wlad fwy ffyniannus a diogel i fyw a gweithio ynddi. Mae cronfeydd yr UE yn cefnogi pobl Cymru ar lawr gwlad, a bydd y prosiect hwn yn creu cyfleoedd lleol a all wneud gwahaniaeth mawr i fywydau pobl Rhondda Cynon Taf, gan helpu i ddiogelu'r economi ranbarthol at y dyfodol mewn termau real iawn."


Mae Rhondda Cynon Taf, a fydd yn arwain y datblygiad, a Llywodraeth Cymru yn cydweithio er mwyn ariannu'r prosiect hwn yn rhannol, ac mae pob partner yn buddsoddi £675,000 a fydd yn ychwanegol at y cyllid gan yr UE. Caiff y parc diwydiannol newydd ei adeiladu ar 15 hectar o gaeau brown sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru ar gyn safle pwll glo a golosg Coed Ely.
Bydd y parc i'r Gogledd-ddwyrain o gylchfan y Bathdy Brenhinol ar yr A4119, a bydd yn creu 2,787m (30,000 troedfedd sgwâr) o arwynebedd llawr ar gyfer busnesau diwydiannol modern. Bydd yn ymateb i'r galw ac yn anelu at annog arallgyfeirio a chystadleurwydd, gan dargedu BBaCh neu gwmnïau mwy a all greu cyfleoedd gwaith parhaol ac o ansawdd uchel.


Mae'r safle tua 4.5 milltir i'r gogledd o'r M4, mae ger yr A4119 ac mae mynediad uniongyrchol ato o Gyffordd 34 yr M4.
Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: "Mae gwella cyfleoedd gwaith mewn ardal sy'n nes at Gymoedd y Rhondda yn agwedd allweddol ar waith Tasglu'r Cymoedd. Bydd y prosiect hwn, o fewn ardal y Tasglu, yn creu cyfleoedd ac yn cyflawni newid economaidd hirdymor ar gyfer cymunedau mewn rhanbarth sy'n cynnig posibiliadau di-ri."


Ychwanegodd y Cynghorydd Robert Bevan, Aelod Cabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar gyfer Mentergarwch, Datblygu a Thai: "Rwy'n falch iawn o glywed cyhoeddiad Llywodraeth Cymru heddiw, ac mae'r Cyngor yn croesawu'r buddsoddiad sylweddol hwn gwerth £2.58 miliwn er mwyn adfywio rhan fawr o gyn safle pwll glo Coed Ely. Mae'r tir yn enghraifft o leoliad strategol y mae angen ei ddatblygu, ac mae'n gwbl allweddol fod y Cyngor yn cyflawni twf economaidd drwy roi bywyd newydd i safleoedd o'r fath.


"Gall yr uned fusnes fodern hon greu cyfleoedd gwaith parhaol a gwerthfawr - dyma brosiect sy'n tystio i'r modd y mae'r Cyngor hwn yn cyflawni ei uchelgais ar gyfer y Fwrdeistref Sirol, gan annog datblygiad busnes a datblygiad economaidd mewn mannau o bwysigrwydd strategol. Rhagwelir y bydd y gwaith yn cychwyn ar y safle yn ystod yr wythnosau nesaf, ac mae disgwyl i'r prosiect fod wedi'i gwblhau erbyn hydref 2020."


Ends