English icon English

Buddsoddiad mwyaf erioed mewn diogelwch tomenni glo yn parhau i ddiogelu cymunedau Cymru

Record investment in coal tip safety continues to protect Welsh communities

Mae cymunedau Cymru yn cael eu diogelu'n well rhag y bygythiad o domenni glo nas defnyddir, gyda thros 3,000 o arolygiadau wedi'u cynnal hyd yn hyn, a data wedi'u diweddaru a gyhoeddir heddiw (dydd Gwener 3 Hydref).

Yn 2023, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru leoliadau a chategorïau tomenni glo nas defnyddir yng Nghymru ar un gronfa ddata ganolog.

Ers hynny, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio'n agos gyda phartneriaid cyhoeddus i ddarparu cyfundrefn arolygu a chynnal a chadw effeithiol ledled Cymru.

Gyda thomenni ledled Cymru bellach yn cael eu monitro'n rheolaidd i gadw cymunedau'n ddiogel, mae diweddariadau i'r Set Ddata Genedlaethol yn cael eu cyhoeddi ddwywaith y flwyddyn.

Rhoddir categorïau i domenni glo nas defnyddir, sy'n ystyried llawer o ffactorau gwahanol ac yn adlewyrchu pa safleoedd a allai fod angen arolygiadau amlach a mwy o waith rheoli. 

Mae tomenni Categori R yn peri'r risg isaf i ddiogelwch y cyhoedd, tra bod tomenni Categori C a D â'r potensial i effeithio ar ddiogelwch y cyhoedd ac felly maent yn cael eu harolygu o leiaf unwaith neu ddwywaith y flwyddyn yn y drefn honno.

Yn y diweddariad heddiw, nodwyd 35 o newidiadau, gan gynnwys tirffurfiau tomenni sydd newydd eu nodi a diwygiadau, gyda'r data wedi'u cyflwyno trwy fap ar-lein.

Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog sydd â chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd, Huw Irranca-Davies:

“Mae diweddaru'r data cenedlaethol hyn sydd ar gael i'r cyhoedd yn rheolaidd yn dangos ein hymrwymiad cadarn i ddiogelwch tomenni glo ledled Cymru, a'n hymroddiad llwyr i ddiogelu pobl.

“Rwyf am roi sicrwydd i bobl sy'n byw yn agos at le mae tomenni wedi symud categorïau bod hyn yn golygu y bydd mwy o waith monitro a rheoli arnynt wrth i Gymru barhau i arwain y ffordd o ran mynd i'r afael â'r her o ddiogelwch tomenni glo, a sicrhau bod ein cymunedau'n ddiogel ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.”

Yn ddiweddar, cytunodd Llywodraeth y DU i ddarparu cyllid uwch nag erioed o £118m dros dair blynedd ar gyfer diogelwch tomenni glo. O'i gyfuno â buddsoddiad Llywodraeth Cymru, mae'n golygu bod dros £220m wedi'i fuddsoddi mewn diogelwch tomenni glo hyd yn hyn.

Ychwanegodd y Dirprwy Brif Weinidog:

“Mae'r buddsoddiad mwyaf erioed hwn yn gwneud gwelliannau diogelwch gwirioneddol i gymunedau ledled Cymru. Mae cyfuno cyllid Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn effeithiol yn ein helpu i sicrhau bod cymunedau'n cael eu diogelu'n well ar gyfer y dyfodol.”

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyflwyno deddfwriaeth nodedig i fynd i'r afael â'r materion diogelwch a achosir gan orffennol mwyngloddio Cymru.

Bydd Deddf Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru), a gafodd Gydsyniad Brenhinol fis diwethaf, yn sefydlu Awdurdod Tomenni Nas Defnyddir Cymru ym mis Ebrill 2027. Bydd y corff cyhoeddus newydd hwn yn gyfrifol am wirio, cofnodi, monitro a rheoli tomenni.