English icon English

Buddsoddiad o £10m i hybu safle Porth y Gogledd

£10m investment to boost Northern Gateway site

Mae Gweinidog yr Economi a Gogledd Cymru, Ken Skates, wedi cyhoeddi heddiw y bydd £10m yn cael ei fuddsoddi yn safle Porth y Gogledd yng Nglannau Dyfrdwy i ddatgloi potensial datblygu tir masnachol a fydd yn hwb i gyflogaeth yn y rhanbarth.

Bydd yr arian yn caniatáu i'r gwaith o adeiladu priffordd gyhoeddus ar draws safle Porth y Gogledd gael ei gwblhau, sy'n hanfodol er mwyn agor y tir sydd wedi'i neilltuo i'w ddatblygu.  Mae cwblhau'r ffordd yn gwneud y safle'n fwy deniadol i ddatblygwyr.

Bydd y buddsoddiad hefyd yn cynnwys creu llwybr bws i gysylltu cymunedau a lleoedd gwaith yn Sir y Fflint fel rhan o Fetro Gogledd Cymru. Bydd y gwaith hwn yn cael ei wneud mewn partneriaeth â Chyngor Sir y Fflint.

Mae 20 erw o'r 220 erw o dir masnachol eisoes wedi'u hagor i'w datblygu ar ôl cwblhau cam cyntaf y gwaith o ddatblygu ffyrdd.  Bydd cwblhau'r ffordd yn ffactor pwysig wrth agor y rhannau sy'n weddill, a bydd yn cyfrannu at adferiad y rhanbarth yn dilyn pandemig y coronafeirws.

Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Gogledd Cymru: "Mae gan Borth y Gogledd botensial mawr i ddarparu cyfleoedd cyflogaeth yn y rhanbarth.  Mae'r tir ei hun wedi'i neilltuo i'w ddatblygu ond mae cwblhau'r ffordd ar draws y safle yn hanfodol i ddenu busnes yno.  Bydd y cynigion hefyd yn cynnwys llwybr bws a ddarperir mewn partneriaeth â Chyngor Sir y Fflint.

          "Bydd y buddsoddiad hwn sydd werth £10 miliwn yn ehangu Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy yn sylweddol a bydd yn datgloi safle sydd â photensial aruthrol.

          "Rydyn ni'n gwybod bod gan fusnesau ddiddordeb yn y safle, a bydd cwblhau'r ffordd o fudd iddyn nhw.  Rydym wedi ymrwymo i lwyddiant Porth y Gogledd ac mae heddiw'n gam tuag at gyflawni ei botensial. 

          "Mae gan y safle hwn y potensial i fod yn sbardun allweddol yn adferiad y rhanbarth yn dilyn pandemig y coronafeirws."