English icon English

Busnesau Cymru yn gobeithio gwneud rhywfaint o arian yn ystod rhith-ymweliad â marchnad allforio

Welsh businesses hoping to make some ‘Doha’ in virtual export market visit

Bydd ugain o fusnesau Cymru yn arddangos eu cynnyrch i gwmnïau o un o'r gwledydd cyfoethocaf yn y byd mewn rhith-ymweliad â marchnad allforio Doha, Qatar.

Bydd y rhith-ymweliad, a drefnwyd gan Lywodraeth Cymru, yn gyfle i fusnesau – gan gynnwys cwmnïau sy'n cynhyrchu dyfeisiau meddygol, tecstilau a bwyd o ansawdd uchel – feithrin cysylltiadau busnes gyda darpar bartneriaid a chwsmeriaid yn Doha.

Byddai'r ymweliad masnach amlsector wedi cael ei gynnal ‘yn y cnawd’ fel arfer gyda busnesau'n teithio o Gymru i Doha, ond mae'n cael ei gynnal yn rhithiwr eleni oherwydd pandemig y Coronafeirws.

Mae'r rhith-ymweliad hwn â marchnad allforio yn dechrau heddiw (28 Medi) a bydd yn cael ei gynnal dros y pedair wythnos nesaf, gyda Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'i swyddfa yn Doha i drefnu cyfres o gyfarfodydd ar gyfer busnesau Cymru ac i ddarparu cymorth a fydd wedi'i deilwra ar eu cyfer.

Y gobaith yw y bydd busnesau sy'n cymryd rhan yn y rhith-ymweliad â'r farchnad yn meithrin cysylltiadau gwerthfawr gyda diwydiannau cyfatebol ac yn rhoi hwb i'w hallforion yn y farchnad bwysig hon, lle mae gwerth y nwyddau sy’n cael eu hallforio o Gymru i Qatar wedi cynyddu dros 85% ers 2015.

Bydd yr ymweliad yn cynnwys sesiynau briffio rhithwir am y farchnad, cymorth

un-i-un oddi wrth Lywodraeth Cymru, a bydd y cwmnïau’n cael eu cynnwys mewn marchnata digidol.

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, Eluned Morgan: "Gobeithio y bydd y rhith-ymweliad hwn yn rhoi hwb sylweddol i’n hallforion i Doha.

"Mae'n anffodus na all busnesau ymweld â Doha yn bersonol eleni, ond mae cynnal yr ymweliad o bell yn cynnig cyfleoedd newydd a mwy o hyblygrwydd i'r rheini sy'n rhan ohono.

"Rydym yn benderfynol o gefnogi busnesau Cymru ym mhob ffordd y gallwn, ac o'u helpu i oresgyn yr heriau y maen nhw’n eu hwynebu yn y cyfnod anodd hwn.

"Ar ôl inni adael yr Undeb Ewropeaidd, mae'n bwysicach nag erioed bod busnesau Cymru yn edrych ar farchnadoedd newydd. Mae'r rhith-ymweliad hwn â'r farchnad yn enghraifft o'r ffyrdd arloesol rydyn ni’n eu hystyried er mwyn rhoi cymorth i fusnesau i ymchwilio i farchnadoedd ledled y byd."

Dywedodd Huw James, Rheolwr Gyfarwyddwr yr Atlantic Service Company, sy'n arbenigo mewn llafnau cylchlifiau torri cig, eu bod yn edrych ymlaen at feithrin dealltwriaeth o'r farchnad a gweithio gyda dosbarthwyr strategol ar y rhith-ymweliad hwn.

Ychwanegodd: "Mae'r gefnogaeth barhaus gan Lywodraeth Cymru wedi bod yn bwysig i dwf Atlantic Service dros y chwe blynedd diwethaf ac mae'n ein helpu gyda’n huchelgais i fod yn wneuthurwr llwyddiannus yng Nghymru ymhell i'r dyfodol.

"Mae rhith-deithiau masach fel y rhain yn helpu i ddileu rhwystrau ac yn ein galluogi i barhau i dyfu."

Nodiadau i olygyddion

Businesses taking part in the visit include:

Company Name

Website

Balsamee

www.balsamee.com

Concrete Canvas

www.concretecanvas.com

The Anglesey Sea Salt Co Halen Mon

www.halenmon.com

TB Davies Cardiff

www.tbdavies.co.uk

Celtic English Academy

www.celticenglish.co.uk

Rhug Organic Farm

www.rhug.co.uk

Mangar International

www.mangarhealth.com

Siderise Group

www.siderise.com

Learna

www.diploma-msc.com

UnitBirwelco

www.unitbirwelco.com

Quicklink

www.quicklink.tv

Digital Farming

www.digitalfarming.io

Julia Brooker Paintings

www.juliabrooker.com

RMJ Studio

www.rmjstudio.com

BJ Seals

www.bjsparts.com

Act Sustainably

www.actsustainably.com

Huntingdon Fusion Techniques

www.huntingdonfusion.com

Braithwaite Engineers

www.braithwaite.co.uk

Drone Evolution

www.dronevolution.co.uk

Atlantic Service

www.atlantic-service.co.uk