Busnesau o Gymru yn sicrhau £436miliwn o werthiannau allforio newydd

Welsh businesses secure £436m in new export sales

Heddiw (18 Mawrth), dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Rebecca Evans, wrth gynhadledd Archwilio Allforio Cymru yn Llandudno fod busnesau o Gymru wedi sicrhau £436miliwn o werthiannau allforio newydd o ganlyniad uniongyrchol i gymorth allforio Llywodraeth Cymru dros y pum mlynedd diwethaf.

Gan fod allforion yn cyfrif am dros draean o gynnyrch domestig gros Cymru, mae'n allweddol i uchelgais Llywodraeth Cymru i dyfu'r economi a chreu swyddi newydd.

Ers lansio'r Cynllun Gweithredu ar gyfer Allforio yn 2020, mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi bron i 1,500 o fusnesau sy'n cael cymorth i allforio am y tro cyntaf neu ehangu i farchnadoedd newydd. Mae hefyd wedi cyflawni 89 o genadaethau masnach, gydag 844 o gynrychiolwyr busnes yn cael eu cymryd i farchnadoedd ledled y byd.

Yn ystod y cyfnod hwnnw, mae Cynghorwyr Masnach Ryngwladol Llywodraeth Cymru wedi cynnal tua 6,000 o gyfarfodydd wyneb yn wyneb â busnesau, wedi cyflwyno dros 430 o brosiectau ymchwil i'r farchnad allforio a chefnogi mwy na 600 o ymweliadau datblygu busnes tramor - o Kenya a Fietnam i'r Ariannin a De Corea.

Mae'r rhaglen Clwstwr Allforio hefyd yn darparu cymorth gan gymheiriaid ar draws chwe sector blaenoriaeth, gyda dros 350 o aelodau. Mae'r Rhaglen Allforwyr Newydd wedi cefnogi 68 o fusnesau sy'n newydd i allforio, gyda chweched carfan bellach ar agor i'w recriwtio.

Mae cwmni gwyddorau bywyd yn y Gogledd, Reacta Healthcare, yn un busnes y mae ei dwf wedi'i yrru gan allforio, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru. Mae Reacta yn datblygu cynhyrchion diagnostig alergedd arbenigol a ddefnyddir mewn treialon clinigol byd-eang.

Mae allforion bellach yn cyfrif am 100% o'i fusnes. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn unig, mae'r cwmni wedi cynyddu ei weithlu o 50 i 80 o bobl ac wedi sicrhau cleientiaid newydd yn Ewrop a'r Unol Daleithiau. Bydd Reacta yn cyflenwi'r contractau newydd hyn yn weithredol dros y 3 blynedd nesaf, sy'n cynrychioli twf sylweddol mewn swm a refeniw. O ganlyniad, mae'r cwmni yn ehangu ei ofod llawr 50% mewn cyfleuster cyfagos i'w safle presennol yng Nglannau Dyfrdwy. 

Dywedodd Belinda Mortell, Pennaeth Masnachol Reacta: "Rydym wedi sicrhau ein contract cwsmeriaid mwyaf hyd yma yn ddiweddar, gan nodi carreg filltir arwyddocaol i'r busnes. Mae'r twf rydyn ni wedi'i weld dros y flwyddyn ddiwethaf - o ddyblu ein tîm i agor cyfleuster newydd yn fuan - yn ganlyniad uniongyrchol i alw rhyngwladol cynyddol. Mae'r cymorth rydyn ni wedi'i gael gan Lywodraeth Cymru wedi bod yn amhrisiadwy, gan chwarae rhan hanfodol i’n helpu i fynd i mewn i farchnadoedd newydd a magu hyder wrth inni barhau i gryfhau ein presenoldeb rhyngwladol."

Yr wythnos diwethaf lansiodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi raglen teithiau masnach Llywodraeth Cymru ar gyfer 2026-27. Bydd yn cefnogi busnesau Cymru i arddangos ei Gwasanaethau a nwyddau ar draws y byd mewn sectorau blaenoriaeth fel ynni glân, gweithgynhyrchu uwch, gwyddorau bywyd a'r diwydiannau creadigol a thechnoleg. Gan dargedu marchnadoedd ledled Ewrop, Gogledd America, Asia a'r Dwyrain Canol, bydd yn codi proffil byd-eang Cymru wrth gynyddu allforion, buddsoddiad a thwf.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans: "Mae allforio yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fusnesau ledled Cymru, yn ogystal â sbarduno twf economaidd a chreu swyddi. Dyna pam rydyn ni'n buddsoddi £3.5 miliwn y flwyddyn i helpu busnesau ar eu teithiau allforio."