Bydd bron i chwarter miliwn o deithiau rhatach ar gael wrth i'r cynllun tocyn am £1 gael ei estyn i bobl 5–15 oed
Almost a quarter of a million cheaper journeys made as £1 pilot scheme is extended to 5–15-year-olds
Bydd rhagor o bobl ifanc yn elwa ar deithiau bws rhatach ledled Cymru wrth i'r cynllun sy'n cynnig tocynnau bws am £1 gael ei estyn i bobl 5–15 oed o heddiw ymlaen.
Cafodd y cynllun ei lansio ym mis Medi ar gyfer pobl 16–21 mlwydd oed, ac mae eisoes wedi bod yn llwyddiant gyda phobl ifanc yn manteisio ar bron i chwarter miliwn o deithiau rhatach.
Nid yn unig bydd y cynllun estynedig yn darparu teithiau bws fforddiadwy diderfyn i ragor o blant a phobl ifanc, i'w helpu i gael mynediad at addysg a hamdden, bydd hefyd yn helpu i gefnogi ymdrechion Llywodraeth Cymru i annog rhagor o bobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, lleihau allyriadau carbon a mynd i'r afael â thlodi.
Bydd y cynllun peilot, sy'n cynnig tocyn unffordd am £1 a thocyn diwrnod am £3 ar gyfer unrhyw wasanaethau bysiau sy'n cymryd rhan, yn rhedeg tan fis Awst 2026. Yn wahanol i'r rhai sy'n 16–21 oed, nid oes angen Fy Ngherdyn Teithio ar bobl ifanc 5–15 oed er mwyn manteisio ar y prisiau rhatach.
Wrth siarad yng Nghyfnewidfa Fysiau Merthyr Tudful, cyn cyfarfod Cabinet yn y dref yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw, bydd y Prif Weinidog, Eluned Morgan yn dweud:
" Rydyn ni'n cyflawni ein haddewid i dorri costau teithio i helpu i ddileu rhwystrau, oherwydd dydyn ni ddim yn disgwyl i unrhyw berson ifanc yng Nghymru deimlo yn ynysig neu ei fod wedi'i anwybyddu oherwydd cost trafnidiaeth.
"Mae'r buddsoddiad hwn eisoes wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gymunedau ledled Cymru, ond yn enwedig mewn ardaloedd gwledig."
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates:
"Mae'n bleser gen i estyn y cynllun hwn i gynnig teithiau bws fforddiadwy i ragor o bobl ifanc ledled Cymru.
"Rydyn ni eisoes wedi gweld cynnydd yn nifer y bobl ifanc sy'n manteisio ar y prisiau rhatach, ac edrychaf ymlaen at weld hyn yn parhau i godi nawr ein bod wedi estyn y cynllun i bobl 5–15 oed."
Bydd arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Jane Dodds, yn dweud:
"Mae hyn yn dangos beth sy'n bosibl pan fydd pleidiau'n rhoi eu gwahaniaethau o'r neilltu ac yn canolbwyntio ar atebion ymarferol i wneud bywydau pobl yng Nghymru yn decach ac yn haws"
Bydd Rheolwr Gyfarwyddwr Stagecoach De Cymru, Martin Gibbon, yn dweud:
"Rydyn ni wedi bod yn falch iawn o weld yr ymateb cadarnhaol i'r cynllun hwn. Mae Stagecoach De Cymru wedi ymrwymo i wneud teithio mor hygyrch a fforddiadwy â phosibl, ac mae'r cynllun eisoes yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ifanc drwy eu cysylltu â chyfleoedd a'u ffrindiau.
"Edrychwn ymlaen at groesawu teithwyr iau ar ein gwasanaethau o heddiw ymlaen."
Mae manylion llawn y cynllun a'r gwasanaethau bysiau sy'n cymryd rhan ar gael ar y wefan Trafnidiaeth Cymru.