English icon English

Bydd contract newydd yn gwella mynediad at ddeintyddiaeth y GIG

New contract will improve access to NHS dentistry

Bydd contract deintyddol newydd i Gymru yn gwella mynediad at ddeintyddiaeth y GIG i bawb wrth i anghenion iechyd ac atal gael eu rhoi wrth wraidd y system newydd.

Bydd y contract deintyddol newydd yn trawsnewid sut y mae gwasanaethau yn cael eu darparu ledled Cymru – gan wella mynediad, tegwch ac ansawdd gofal.

Dyma'r diwygiad mawr cyntaf o'r contract mewn 20 mlynedd a bydd yn disodli'r contract unedau gweithgarwch deintyddol, sy'n talu deintyddion i alw cleifion bob chwe mis, waeth a oes ganddynt unrhyw broblemau neu beidio.

Bydd y contract newydd, a ddaw i rym ym mis Ebrill 2026, yn golygu y bydd pobl yn cael eu gweld yn seiliedig ar eu hanghenion iechyd y geg – bydd y rhai y mae arnynt angen triniaeth weithredol neu gymorth i gynnal iechyd y geg yn cael eu gweld yn fwy rheolaidd.

Mae cyfres o newidiadau wedi'u gwneud i gynigion y contract dros yr haf ar ôl i barhad gofal ddod i'r amlwg fel blaenoriaeth allweddol yn ystod y cyfnod ymgynghori.

Bydd hyn yn golygu y bydd pobl â'r cegau mwyaf iach yn cynnal eu perthynas â'u deintydd dewisol drwy apwyntiadau adalw, yn hytrach na dychwelyd i restr aros ganolog - y Porth Mynediad Deintyddol - tan eu hapwyntiad nesaf wedi'i drefnu, fel y cynigiwyd yn wreiddiol.

O dan y system ddiwygiedig, bydd practisau yn cael taliadau i barhau i weld cleifion presennol ar gyfer apwyntiadau adalw, gan roi rhyddid i ddeintyddion fonitro iechyd y geg yn seiliedig ar risg ac angen unigol.

Bydd y contract newydd hefyd yn gweld cynnydd yn nhaliadau'r GIG i ddeintyddion, gyda chyfraddau ffioedd cyffredinol yn codi o'r £135 arfaethedig i £150 yr awr.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Jeremy Miles: “Mae iechyd y geg da yn hanfodol i'n hansawdd bywyd.

“Mae'r diwygiadau hyn yn dangos ein hymrwymiad i wneud deintyddiaeth y GIG yn fwy hygyrch, tecach a chynaliadwy i gleifion a gweithwyr proffesiynol.

“Rydyn ni wedi gwrando ar bobl ac mae'n amlwg bod yr ymddiriedaeth a'r sicrwydd sy'n dod o weld yr un gweithiwr deintyddol proffesiynol dros amser yn cael ei werthfawrogi. Rydyn ni’n gwneud yn siŵr bod hyn yn cael ei gynnal yn y contract newydd.”

Mae'r ymatebion i'r ymgynghoriad, sy'n cael eu cyhoeddi heddiw (dydd Mawrth), yn dangos cefnogaeth gref i ddiwygio ymhlith gweithwyr deintyddol proffesiynol.

Mae ffioedd cleifion wedi cael eu symleiddio o dan y system newydd.

O dan y system newydd, bydd y rhai sy'n talu am driniaeth y GIG yn talu 50% o werth eu pecyn triniaeth, wedi'i gapio ar uchafswm o £384 waeth faint o ofal y mae arnynt ei angen. Mae hyn yn ostyngiad o'r 55% a gynigiwyd yn wreiddiol. Mae'n sicrhau bod gofal deintyddol y GIG yn dal yn fforddiadwy ac yn amddiffyn cleifion rhag costau annisgwyl.

Mae tua hanner poblogaeth Cymru wedi'i heithrio rhag talu ffioedd deintyddol y GIG, gan gynnwys plant o dan 18 oed, menywod beichiog, cleifion deintyddol mewn ysbyty, a phobl sy'n cael budd-daliadau penodol.

Bydd y cynllun incwm isel yn parhau i ddarparu cymorth gyda chostau yn seiliedig ar amgylchiadau unigol.

Mae'r diwygiadau hefyd yn cynnwys mwy o gyllid ar gyfer datblygu clwstwr cyflym i gefnogi ymgysylltiad gweithwyr deintyddol proffesiynol i chwalu seilos mewn darpariaeth deintyddiaeth a chynnwys timau mewn diwygio'r GIG yn ehangach, yn enwedig mewn gofal ataliol.

Ychwanegodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Jeremy Miles: “Mae pob person yng Nghymru yn haeddu gofal deintyddol o safon pan fydd ei angen arnynt, waeth ble maen nhw'n byw neu eu cefndir.

“Mae angen newid, ac mae ein contract deintyddol newydd yn allweddol o ran cyflawni'r hyn y mae pobl ei eisiau – system sy'n deg ac yn effeithiol.

“A diolch i adborth y cyhoedd ac arbenigedd proffesiynol ledled Cymru rydyn ni'n gallu gwneud hyn."