English icon English
Julie James Flintshire ORP site visit-2

Bydd cyllid grant yn cefnogi datgarboneiddio 100 o gartrefi yn Sir y Fflint

Grant funding will support decarbonising 100 homes in Flintshire

Heddiw, dydd Mawrth 4 Mehefin, aeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio, Julie James, ar ymweliad ag eiddo sy'n elwa o gyllid grant o'r Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio yn Sir y Fflint.

Mae'r Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio (ORP) yn ddull tŷ cyfan, ymarferol o ddatgarboneiddio cartrefi.

Yn fwy pwrpasol na chynlluniau blaenorol, mae'r ORP yn ystyried y deunyddiau y caiff cartrefi eu gwneud ohonynt a sut maent yn gwresogi ac yn storio ynni.

Trwy ddefnyddio dull 'profi a dysgu', gellir defnyddio'r rhaglen i nodi'r ffyrdd mwyaf effeithlon a chost-effeithiol o gyflawni'r canlyniadau gorau i breswylwyr.

Mae'n agored i Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig ac awdurdodau lleol i osod amrywiol fesurau datgarboneiddio cartrefi yn y stoc tai cymdeithasol presennol.

Bydd Cyngor Sir y Fflint yn derbyn gwerth tua £5.7m o gyllid grant ORP dros dair blynedd ac mae wedi ymrwymo i ôl-osod tua 600 eiddo.

Aeth Ysgrifennydd y Cabinet i ymweld â chartrefi sy'n gwneud gwaith yn ardal Coed-llai a adeiladwyd rhwng 1920 a 1950 ac sydd â waliau wedi’u hadeiladu yn draddodiadol gyda nwy fel eu prif danwydd gwresogi.

Meddai Ysgrifennydd y Cabinet: "Rwy'n croesawu'r cynnydd arloesol y mae Cyngor Sir y Fflint yn ei wneud tuag at ddatgarboneiddio eiddo yn Sir y Fflint.

"Drwy ôl-osod eiddo presennol gyda phaneli solar, gosod waliau allanol a cheudod a goleuadau LED, byddant yn helpu i leihau biliau ynni i breswylwyr yn sylweddol.

"Bydd yr wybodaeth a gasglwn o'r gwaith yn ein helpu i werthuso'r ffyrdd mwyaf cost-effeithiol o gynhesu ein cartrefi ac yn helpu i rymuso pobl yn y dyfodol i wneud dewisiadau mwy gwybodus."

DIWEDD